Mae landlord tafarn yng Nghaerdydd wedi derbyn tip o £100 er mwyn helpu’r busnes drwy gyfnod anodd yn sgil Covid-19.

Cymaint oedd Chris Rowlands, landlord tafarn Bub’s yng Nghaerdydd, wedi synnu â’r haelioni, aeth ati i geisio cysylltu â’r cwsmer.

“Nos Fawrth oedd hi, gadawodd y cwsmer dip o £100 a hynny ar ôl mwynhau un peint oedd ond yn costio ryw £4.90 – felly yn naturiol roeddwn yn meddwl mai camgymeriad oedd hyn”, meddai.

Oherwydd cyfyngiadau y coronafeirws mae’r dafarn a nifer o sefydliadau eraill yn y brif ddinas yn defnyddio system archebu gan ddefnyddio ffonau symudol, ac mi oedd modd olrhain y taliad gan ddefnyddio’r system archebu.

“Ar ôl cysylltu â chwmni Yoello mi oedd modd iddyn nhw roi ni mewn cysylltiad â’r cwsmer”, meddai Chris Rowlands.

“Eglurodd y cwsmer ei fod wedi bwriadu tipio cymaint â hynny er mwyn cefnogi’r dafarn mewn cyfnod sydd yn anodd iawn i fusnesau yn sgil Covid-19.

“Mi oeddwn wedi fy syfrdanu y byddai rhywun yn meddwl gwneud hynny. Mae’n braf gweld bod yna ddaioni yn y byd o hyd!”

‘Gŵr bonheddig’

“Roedd yn wych clywed bod un o’n cleientiaid wedi derbyn cefnogaeth mor anhygoel gan un o’i gwsmeriaid”, meddai Sina Yamani, Prif Swyddog Gweithredol a Sylfaenydd Cwmni Yoello.

“Roedd y ffaith bod y gŵr bonheddig wedi ei ychwanegu’n gyfrinachol at ei fil wrth iddo dalu drwy’r platfform heb sôn wrth unrhyw aelod o staff yn dangos ei fod yn amlwg eisiau helpu ar adeg mae tafarndai a bwytai lleol dan bwysau anhygoel.”