Mae Cyngor Gwynedd yn wynebu “costau ychwanegol” wedi i griw o weithwyr allweddol orfod hunan-ynysu, ar ôl bod yn eistedd gyda’i gilydd mewn bws mini wrth fynd am noson allan.

Nid yw yn hysbys pwy yw’r gweithwyr allweddol dan sylw, ond mae’r Prif Weithredwr wedi dweud y bydd yna “oblygiadau yn deillio i’r unigolion yma”.

Mae Dilwyn Williams y Prif Weithredwr wedi sgrifennu at staff Cyngor Gwynedd, er mwyn rhoi gwybod am y digwyddiad “difrifol” ac i erfyn ar yr holl weithwyr i “gadw at y rheolau” Covid-19.

Neges y Prif Weithredwr

“Dwi’n anfon y bwletin yma atoch er mwyn amlygu mater difrifol sydd wedi codi o ran ymddygiad staff ac i ofyn am eich cydweithrediad i sicrhau nad yw’n digwydd eto,” meddai Dilwyn Williams, Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd, yn ei neges fewnol at y gweithwyr.

“Yn ddiweddar, cefais wybod am achos lle bu i staff oedd yn gweithio gyda’i gilydd mewn uned o fewn y cyngor benderfynu mynd am noson allan gyda’i gilydd mewn bws mini.

“Yn sgil hynny, mae un ohonynt wedi profi’n bositif am Covid-19 ac oherwydd hynny mae pob un ohonynt wedi gorfod hunan-ynysu am 14 diwrnod, gan greu perygl i ni fethu parhau gyda’r gwasanaeth allweddol yr oeddent yn ei gyflawni gan greu costau ychwanegol i’r cyngor i fedru sicrhau parhad y gwasanaeth.

“Mae angen i ni fod yn glir bod ymddygiad o’r fath, sydd yn hollol groes i’r rheolau pellhau cymdeithasol, yn gwbl annerbyniol, ac yn amlwg fe fydd yna oblygiadau yn deillio i’r unigolion yma.”

Ymateb Cyngor Gwynedd

Mae llefarydd Cyngor Gwynedd wedi cadarnhau bod y Prif Weithredwr wedi “dwyn sylw at un achos penodol ble torrwyd y rheolau hyn a thanlinellu beth allai sgil-effeithiau ymddygiad o’r fath fod.

“Gan mai mater Adnoddau Dynol mewnol yw hyn, ni fyddai’n briodol i ni wneud sylw pellach.

“Ond gallwn gadarnhau na chafodd y digwyddiad unrhyw effaith ar allu’r cyngor i ddarparu gwasanaethau allweddol i’n cwsmeriaid.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Gyngor Gwynedd beth yn union ydy’r “costau ychwanegol” sy’n deillio o’r staff allweddol yn gorfod hunan-ynysu, a chael yr ateb yma:

“Bydd rhaid aros hyd nes y bydd yr unigolion wedi dychwelyd i’r gwaith ar ddiwedd eu cyfnod hunan-ynysu cyn y gellir cyfrifo’r gost o sicrhau parhad gwasanaeth.”