Mae Bethan Sayed, Aelod o’r Senedd Gorllewin De Cymru tros Blaid Cymru, wedi cyhoeddi na fydd hi’n rhoi ei henw ymlaen i gael ei hailethol i’r Senedd yn 2021, a hynny er mwyn treulio mwy o amser gyda’i mab.
Mae wedi bod yn Aelod o’r Senedd er 2007, a phan gafodd ei hethol yn 25 oed hi oedd yr aelod ieuengaf o’r Senedd erioed.
“Rwy’n gresynu, yn anffodus, y gallai’r penderfyniad hwn fod yn wahanol pe bai gennym ni well trefn yma yng Nghymru,” meddai.
“Efallai pe bai cyfle i rannu swydd wedi bod – rhywbeth sydd wedi cael ei drafod ers sawl blwyddyn – efallai byddai modd i mi fod wedi jyglo fy ngwaith fel gwleidydd a bod yn fam newydd.
“Efallai pe bai pleidiau wedi gweithio i gynyddu maint y Senedd mewn pryd ar gyfer y tymor nesaf, fel y gallai’r llwythi gwaith cynyddol fod wedi cael eu rhannu’n well, efallai y byddai fy mhenderfyniad wedi bod yn wahanol.
“Ond rydw i nawr eisiau amser gyda fy nheulu. Er cymaint mae llawer o bobl yn dymuno credu bod gwleidyddiaeth Cymru yn gyfeillgar i deuluoedd, dydw i ddim yn credu ei bod hi. Mae cryn dipyn i’w wneud eto.”
“Gwleidydd arloesol”
Mae Arweinydd Plaid Cymru wedi diolch i Bethan Sayed am ei chyfraniad i fywyd cyhoeddus yng Nghymru.
“Fel yr aelod ieuengaf erioed pan gafodd ei hethol, roedd Bethan yn wleidydd arloesol o’r cychwyn cyntaf”, meddai Adam Price.
“Mae hi wedi gweithio’n ddiflino yn ei rhanbarth a thu hwnt, gan frwydro dros weithwyr Ford, Visteon a Tata Steel.
“Gan wasanaethu fel cadeirydd y pwyllgor Diwylliant, Iaith a Chyfathrebu Cymraeg, mae Bethan wedi arwain gwaith y Senedd yn ddiwyd wrth graffu ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru ar y materion pwysig hyn.
“Yn fwy diweddar, hyrwyddodd Bethan y syniad arloesol o gyflwyno locwm i gwmpasu absenoldeb mamolaeth Aelodau’r Senedd.
“Ar ran Plaid Cymru, hoffwn ddiolch i Bethan am ei chyfraniad i fywyd cyhoeddus Cymru ac o deulu Plaid Cymru i’w theulu hi, anfonaf ein dymuniadau cynhesaf at Bethan.”