Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i gwynion am yfed dan oed ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn nhref Porth Tywyn, sydd ar arfordir Sir Gaerfyrddin.

Mae’r heddlu yn ymchwilio i ddifrod i gar a ddigwyddodd pan dyrrodd tua 200 o bobl ifanc at ei gilydd, wedi i’r digwyddiad gael ei hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol.

Defnyddiodd yr heddlu orchymyn gwasgaru er mwyn symud y dorf, gan gydweithio gyda’r Heddlu Trafnidiaeth i sicrhau fod y bobl ifanc yn cyrraedd adref.

Dywedodd y Sarjant Ben Ashton, o Dîm Plismona yn y Gymdogaeth yn Llanelli, fod swyddogion wedi ymateb yn sydyn i’r digwyddiad er mwyn atal rhagor o ymddygiad gwrthgymdeithasol.

“Mae yfed dan oed yn beryglus, a hoffwn atgoffa rhieni am eu cyfrifoldeb i fod yn ymwybodol o weithgareddau a symudiadau eu plant,” meddai’r Sarjant Ben Ashton.

“Mae’n drosedd i brynu alcohol i unrhyw un o dan 18 oed, a byddwn yn ymdrin yn briodol ag unrhyw un sydd yn cael ei ddal yn gwneud hynny.”

Bydd yr heddlu yn patrolio’r ardal dros benwythnos Gŵyl y Banc.