Mae gwaith ymchwil yn dangos fod 9 allan o bob 10 o bobol sydd wedi bod yn gweithio o adre yn ystod y cyfnod clo, yn dymuno parhau i wneud hynny.

Yn ôl yr adroddiad, Homeworking in the UK: before and during the 2020 lockdown, cynyddodd y ganran o weithwyr oedd yn gweithio o adref o 6% cyn dechrau’r pandemig i 43% erbyn mis Ebrill.

Dangosodd canlyniadau’r adroddiad fod lefelau cynhyrchiant gweithwyr yr un fath ag oeddent yn y chwe mis blaenorol.

Dywedodd yr Athro Alan Felstead o Brifysgol Caerdydd fod canlyniadau’r adroddiad yn awgrymu y gall newidiadau mawr ddigwydd i’r gweithle traddodiadol.

“Mae’r bobol sydd yn dymuno parhau i weithio o gartref ymysg y mwyaf cynhyrchiol, felly ni fyddai atal iddyn nhw ddewis sut i weithio yn y dyfodol yn gwneud synnwyr economaidd,” meddai Alan Felstead.

“Gall rhoi’r hyblygrwydd i weithwyr ddewis lle maen nhw yn gweithio, fod yn fuddiol iawn i gwmnïau wrth iddyn nhw geisio adfer eu sefyllfa wedi effaith Covid-19,” ychwanegodd.

Y Llywodraeth eisiau gweithwyr mewn swyddfeydd

Daw’r ymchwil wedi adroddiadau fod Llywodraeth Prydain yn bwriadu annog gweithwyr i ddychwelyd i’w swyddfeydd, yn sgil pryderon am effaith gweithio o gartref ar drefi a dinasoedd.

Yn ôl cyd-awdur yr adroddiad, Darja Reuschke, o Brifysgol Southampton, mae strydoedd mawr ein dinasoedd wedi cael eu heffeithio yn arw gan y pandemig, ac yn debygol o aros yn dawel am beth amser gan fod llai o bobol yn dychwelyd i’w gweithleoedd traddodiadol.

“Serch hynny, mae hyn yn rhoi cyfle i ni ailystyried canol ein dinasoedd fel llefydd aml-ddefnydd sydd yn gallu cynnig gwahanol fathau o ddefnydd economaidd fydd ddim yn gwbl ddibynnol ar deithio rhwng y gweithle ac adref,” yn ôl Reuschke.