Mae adroddiadau fod Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru wedi methu ag ymchwilio yn briodol i honiadau o ymosodiadau rhywiol.

Mae dwy fenyw, a enwir yn unig fel ‘A’ ac ‘S’, wedi dweud eu bod ymhlith o leiaf 16 o ferched yn y Coleg yng Nghaerdydd sydd wedi cwyno am gamymddwyn rhywiol gan fyfyriwr gwrywaidd dienw.

Mae ‘A’ yn dweud iddi riportio pedwar ymosodiad rhywiol honedig yn ei herbyn o fewn ei phythefnos cyntaf yn y coleg yng Nghaerdydd.

Mae ‘S’ yn honni bod yr un dyn wedi cyflawni “ymosodiad treisgar a rhywiol” yn ei herbyn tua’r un amser.

Mae ‘A’ ac ‘S’ wedi bygwth camau cyfreithiol, gan honni i’r Coleg fethu yn ei ddyletswydd i ymchwilio’n briodol i’r honiadau.

16 o ferched wedi gwneud honiadau tebyg yn erbyn yr un person

Dywedodd cyfreithiwr, John Watkins, o gwmni Bater Law, wrth bapur newydd y Guardian ei fod yn credu bod o leiaf 16 o ferched wedi gwneud honiadau tebyg yn erbyn yr un person, gan gynnwys ei ddau gleient, ond nad oedd pob un ohonyn nhw’n barod i roi tystiolaeth.

Eglurodd y cyfreithiwr ei fod yn credu bod swyddog ymchwilio’r coleg wedi israddio nifer o’r honiadau a wnaed.

Yn ôl y cyfreithiwr, gofynnwyd i ‘S’ ailadrodd yr honiadau ger bron panel o ddarlithwyr ddyddiau wedi iddi riportio’r digwyddiad.

Yn ddiweddarach cafodd ‘S’ wybod nad oedd y coleg yn ystyried bod yr honiadau wedi’u gwneud yn swyddogol, a hynny oherwydd nad oeddent wedi eu cyflwyno’n ysgrifenedig.

Dywedodd y cyfreithiwr nad oedd yr ymchwilydd wedi ystyried bod pob un o’r honiadau yn ategol i’r rhai a wnaed gan ‘A’.

O ganlyniad, meddai John Watkins, “ni brofwyd ei chwynion oherwydd bod [yr ymchwilydd] wedi dweud mai gair un person yn erbyn gair rhywun arall oedd hyn”.

Honnodd y byddai’r ymchwilydd wedi dod i gasgliad gwahanol pe bai wedi ystyried yr honiadau eraill gyda’i gilydd.

Mewn llythyr cyfreithiol at y coleg, mae John Watkins hefyd yn dyfynnu’r ymchwilydd o ddweud:

“Pe bai unrhyw honiadau eraill o aflonyddu rhywiol yn erbyn [yr honedig]… byddai hynny wedi bod yn achos gwahanol. Doedd dim. Roedd un honiad yn ei erbyn o ymosodiad rhywiol ac roedd yna nifer o honiadau o gyffwrdd amhriodol.”

Ymateb Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran y coleg y byddai’n amhriodol gwneud sylwadau ar yr honiadau penodol oherwydd y broses gyfreithiol, ond bod pob adroddiad o ymddygiad amhriodol yn cael ei drin gyda’r “difrifoldeb mwyaf”.

“Mae diogelwch a lles ein myfyrwyr a’n staff yn bwysig iawn i ni ac mae gennym fecanweithiau ffurfiol ar waith i ddiogelu a chefnogi aelodau o gymuned y coleg sy’n riportio digwyddiadau”, meddai’r llefarydd.

“Rydym yn parhau i ymrwymo i wrando’n agored ar unrhyw aelod o’n cymuned, presennol neu flaenorol, sy’n dymuno riportio digwyddiad trwy ein prosesau ffurfiol – boed yn ddiweddar neu’n hanesyddol.

“Rydym yn annog unrhyw bobol nad ydynt wedi rhoi gwybod am eu pryderon eto i gysylltu â ni.”