Yn dilyn adroddiadau fod unigolyn sydd wedi dychwelyd o Zante wedi bod yn rhai o dafarndai ardal Maesteg dros y penwythnos mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pobol ifanc yr ardal i fod yn ofalus.

“Rydym yn ymwybodol o straeon ar gyfryngau cymdeithasol am unigolion yn ardal Maesteg sydd wedi dychwelyd o Zante ac sydd o bosibl yn dangos symptomau Covid-19”, meddai Llefarydd ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

“Mae’n bwysig bod unrhyw un sy’n credu eu bod wedi dod i gysylltiad â’r unigolion sydd wedi dychwelyd o Zante i fod yn ymwybodol o symptomau Covid-19.

“Bydd ein gwasanaethau yn cysylltu â gwahanol sefydliadau lle honnir bod yr unigolion wedi bod dros y penwythnos, ac rydym yn barod i ddarparu cyngor a chefnogaeth iddynt.”

Daw’r cyhoeddiad ar ôl i o leiaf 16 o bobol a oedd ar daith Tui 6215 o Zante i Gaerdydd ddydd Mawrth diwethaf (Awst 25) brofi’n bositif ar gyfer Covid-19.

Mae 193 o bobol oedd ar yr awyren wedi eu rhybuddio bod angen iddynt hunanynysu.

Apêl i grŵp oedran 20-30

Dywedodd llefarydd ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru bod nifer fawr o achosion o’r coronafeirws yng Nghymru yn ganlyniad i ddiffyg pellter cymdeithasol, yn enwedig gan leiafrif o’r grŵp oedran 20-30.

“Rydym yn apelio’n uniongyrchol at bobol ifanc i gofio, hyd yn oed os ydyn nhw’n teimlo na fyddai Covid-19 yn effeithio’n wael arnyn nhw, pe bydden nhw’n ei drosglwyddo i aelodau teulu, ffrindiau neu gydweithwyr hŷn neu fwy agored i niwed gallai fod yn hynod o ddifrifol, a hyd yn oed yn angheuol”, meddai’r llefarydd.

“Er gwaethaf y cyfraddau isel yng Nghymru, nid yw coronafeirws wedi diflannu.

“Cyfrifoldeb pawb o hyd yw helpu i atal y firws hwn rhag lledaenu – hynny yw, trwy hunanynysu pan ofynnir iddynt wneud hynny, aros dau fetr i ffwrdd oddi wrth eraill, a golchi eu dwylo yn rheolaidd.

“Rhaid i unrhyw un sy’n dychwelyd i Gymru o wledydd y nodwyd eu bod yn risg uchel hunanynysu yn unol â rheoliadau’r Swyddfa Dramor hyd yn oed os nad ydyn nhw’n profi unrhyw symptomau Covid-19 neu wedi cael canlyniad prawf negyddol.”