Mae Cian Ciarán yn dweud ei bod yn “rhyddhad” fod ei ddeiseb yn galw am asesiad o effaith amgylcheddol gollwng mwd niwclear o Hinckley Point i’r dŵr ger Caerdydd yn mynd i fod yn destun dadl ar ôl denu 5,000 o lofnodion.

Mae cynlluniau i ollwng 780,000 tunnell o wastraff niwclear o atomfa Hinckley Point ar arfordir y de, tua milltir o Gaerdydd.

Mae’r dadlau ynghylch cludo’r mwd niwclear o Hinckley Point i ddyfroedd y de yn rhygnu ymlaen ers 2018, ac er i Cian Ciarán ennill achos llys yn erbyn EDF, datblygwyr yr atomfa, maen nhw wedi bwrw ymlaen gyda’r cynlluniau.

Dywed mai’r “un cwestiynau a gafodd eu codi ddwy flynedd yn ôl sy’n codi eto, ond nid ydym yn cael atebion”.

Mae’r ddeiseb yn mynnu bod “Asesiad o Effaith Amgylcheddol llawn yn cael ei gyflawni cyn i ddim mwy o’r gwastraff niwclear o Hinckley Point gael ei ollwng yn y môr”.

Llywodraeth Cymru ar fin torri eu cyfraith eu hunain

“Mae Deddf Amgylcheddol (Cymru) 2016 yn gorfodi Llywodraeth Cymru i asesu unrhyw ansicrwydd amgylcheddol,” meddai wrth golwg360.

“Ac mae cymaint o ansicrwydd yn bodoli ynghylch effaith y mwd niwclear, byddai peidio â gweithredu’r ddeddf hon yn golygu fod y llywodraeth yn torri eu cyfraith eu hunain.”

Erbyn hyn, mae 5,000 o bobol wedi arwyddo’r ddeiseb sydd yn golygu y bydd yn cael ei hystyried ar gyfer dadl gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Cian Ciaran ei fod yn “rhyddhad” fod cymaint wedi arwyddo’r ddeiseb, a’i fod yn “ddiolchgar am y llais sydd gennym”, ond nad yw’n ffyddiog y bydd y Llywodraeth yn gwrando.

Mae Neil McEvoy, sydd wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn y cynlluniau i ollwng y mwd ger Caerdydd, yn dweud mai’r flaenoriaeth yw diogelwch pobol a’n bywyd morwrol.

“Sut allwn i ganiatáu i 780,000 tunnell o wastraff niwclear gael ei ollwng yn ein dyfroedd heb gael ei brofi’n iawn?” meddai.

“Mae’r cyhoedd yn poeni, amgylcheddwyr yn lloerig, gwyddonwyr yn dweud eu bod yn bryderus, a’r unig bobol sydd ddim fel petaen nhw’n poeni am y sefyllfa yw’r gwleidyddion Llafur ym Mae Caerdydd.”

“Dro yn ôl, gwnaeth Llywodraeth Tsieina hi’n anghyfreithlon i wledydd eraill ollwng eu gwastraff yno, ond yng Nghymru mae’r llywodraeth fel petaent yn croesawu’r fath driniaeth.

“Mae pobol Cymru wedi cael digon.”