Mae arweinydd yr SNP yn San Steffan, Ian Blackford AS, wedi annog Boris Johnson i ymestyn y cynllun ffyrlo y tu hwnt i fis Hydref, gan rybuddio am y posibilrwydd o lefelau o ddiweithdra nas gwelwyd ers i Margaret Thatcher fod yn brif weinidog.
Dywedodd wrth Dŷ’r Cyffredin yn sesiwn holi’r Prif Weinidog: “Gyda’r cloc yn tician ar fusnesau a gweithwyr sy’n ei chael hi’n anodd, a wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo heddiw i ymestyn y cynllun cadw swyddi y tu hwnt i fis Hydref?
“Neu a yw ei Lywodraeth yn gwneud y dewis gwleidyddol i dderbyn lefelau diweithdra a welwyd ddiwethaf o dan Thatcher ar ddechrau’r 1980au?”
Ymatebodd Mr Johnson: “Mae’n ymddangos bod yr aelodau gyferbyn, o bob plaid, am ymestyn y cynllun ffyrlo – cynllun sydd eisoes wedi costio £40 biliwn i’r wlad… [mae wedi] cefnogi 11 miliwn o bobl… ond wedi’r cyfan mae’n […] eu hatal rhag mynd i’r gwaith.
“Yr hyn rydym am ei wneud yw cael pobl yn ôl i’r gwaith a dyna pam rwy’n gobeithio y bydd ef [Mr Blackford] yn cefnogi ein cynllun Kickstarter yn lle hynny i gael pobl ifanc i mewn i swyddi a’u cefnogi yn y swyddi hynny.
“Faint yn well yw hynny na bod yn segur heb waith?”
‘Dewis moesol’
Dywedodd Mr Blackford fod pobl yr Alban yn gweld “hanes o ddwy lywodraeth”:
“Mae Ffrainc, yr Almaen ac Iwerddon wedi ymestyn eu cynllun y tu hwnt i 2021. Maent wedi gwneud dewis moesol – nid ydynt yn barod i gosbi eu pobl gyda’r lefelau uchaf erioed o ddiweithdra.
“Mae pobl yn yr Alban yn gweld hanes o ddwy lywodraeth – tra bod y Torïaid yn torri cymorth cynllun, ddoe cyhoeddodd [Prif Weinidog yr Alban] Nicola Sturgeon fuddsoddiad newydd i ddiogelu swyddi gan gynnwys gwarant ieuenctid.
“Ry’n ni i gyd yn gwybod bod swyddi dan fygythiad os daw’r cynllun ffyrlo i ben ym mis Hydref. Y Prif Weinidog sy’n gyfrifol am roi terfyn ar y bygythiad hwn.”
Ymatebodd Boris Johnson: “Yr hyn rydym yn ei wneud yw nid yn unig yn parhau â’r cynllun ffyrlo, fel y mae’n gwybod, tan ddiwedd y mis hwn… [cynllun] sy’n llawer mwy hael, gyda llaw, nag unrhyw beth a ddarperir yn Ffrainc neu’r Almaen neu Iwerddon.
“Rydyn ni’n parhau ag ef ond byddwn hefyd, ar ôl i’r cynllun hwnnw ddirwyn i ben, byddwn yn bwrw ymlaen â mesurau eraill i gefnogi pobl mewn gwaith.”