Nid dyma’r erthygl roeddwn i’n disgwyl ei hysgrifennu.
Es i i’r gwely yn disgwyl i Kamala Harris ennill y bleidlais boblogaidd a dal ei gafael ar Pennsylvania. Fe wnes i ddihuno mewn gwlad sydd wedi penderfynu cofleidio gwreig-gasineb, achwyn a ffasgaeth. Yn 1933, fe wnaeth yr Almaen ethol Hitler a rhoi 43% o’r bleidlais iddo fe. Yma, mae’r anghenfil oren wedi ennill canran hyd yn oed yn uwch o’r bleidlais boblogaidd.
Mae hon yn sefyllfa lawer gwaeth na 2016, o ystyried bod gan yr anghenfil record ofnadwy. Fe wnaeth pobol bleidleisio dros neges y dyn hwn, gan wybod fod ei arlywyddiaeth ddiwethaf wedi dod i ben yn llythrennol mewn dinistr. Mae’r holl ffrindiau dw i wedi siarad â nhw hyd yma yn llythrennol yn eu dagrau.
Does dim amheuaeth y bydd gan etholiadegwyr, a haneswyr y dyfodol, eu dadansoddiadau eu hunain o ran pam wnaeth pobol bleidleisio drosto fe. Efallai y bydd gwersi i’w dysgu (Merick Garland, pam na wnaethoch chi erlyn y dyn yn gyflym, gan ddefnyddio’r safonau cyfiawnder troseddol arferol?). Ond dyma ni, ac mae’n rhaid i ni feddwl am y dyfodol.
Imiwnedd
Yn gyntaf, fydd y dyn hwn ddim yn destun gwirio na chraffu, o gofio dyfarniad y Goruchaf Lys. Bydd yr arlywyddiaeth yma, fwy na thebyg, yn dibynnu ar orchymyn, sy’n ffordd beryglus o reoli.
Yn ail, bydd gweinidogion Trump yn cynnig dewisiadau eithafol i’r anghenfil hwn, ac fel Hitler, bydd Trump yn dewis y peth mwyaf eithafol (ffenomen sydd wedi’i nodi gan Iain Kershaw).
Yn drydydd, rydyn ni’n gwybod fod Trump yn dirywio’n feddyliol, felly mae’n teimlo fel pe baen ni wedi ethol Caligula. Os oedd ei dymor diwethaf wedi dangos unrhyw beth i ni, bydd hi’n cymryd llawer iawn o anallu gan Trump i’w symud o’r unfed Gwelliant ar hugain. Yn wir, fe allai fod yn fanteisiol i genedlaetholwyr Cristnogol gadw Trump yn ei le cyhyd â phosib. Pe bai yna Arlywydd Vance dros dro, yn eironig mae’n bosib na fydd modd iddo fe gyflawni cymaint.
Polisïau ac addewidion
Y flaenoriaeth gyntaf i Trump fydd gwireddu ei addewidion i’r oligarchiaeth oedd wedi ei gefnogi: torri trethi, a dileu elfennau o’r wladwriaeth sy’n rheoleiddio rhan fawr o’r economi. Gyda Thŷ a Senedd GOP, efallai na fydd angen gorchymyn ar Trump, hyd yn oed, ar gyfer y math yma o newidiadau. Gobeithio na fydd e’n cael gwneud y tariffau, oherwydd byddai hynny wir yn gwneud llanast o economi’r byd. Fodd bynnag, does dim angen deddfwriaeth ar gyfer nifer o’i bolisïau, oherwydd mae modd eu gwneud nhw drwy orchymyn gweithredol.
O ran polisi tramor, mae unrhyw beth yn bosib. Bydd unrhyw gynghreiriau sydd gan America’n cael eu diraddio neu eu terfynu. Alla i ddim dychmygu sut deimlad yw bod yn Wcreiniad neu i fod yn un o drigolion Taiwan heddiw, heb sôn am fod yn Balestiniad!
Gartref, efallai y bydd ffurfiau’r Cyfansoddiad yn cael eu cadw, os nad y sylwedd. Dw i’n disgwyl i’r gyfundrefn hon gyfyngu ar bethau fel pleidleisio er mwyn cynnal dominyddiaeth y gyfundrefn. Bydd llawer o bolisïau creulon yn cael eu cyflwyno, nid lleiaf y rheiny sy’n torri ar yr hawl i erthylu, a hawliau lleiafrifol. Efallai y bydd rhaglenni mewnfudo ac allyriadau ar raddfa fawr. Bydd rhyddid barn yn lleihau. Dw i’n credu bod rhaid i ni dderbyn gair tywyll iawn Trump.
Gwrthwynebiad a gorthrwm
Bydd, mi fydd yna wrthwynebiad croch, a byddai Trump yn ddoeth i adael iddo fod felly. Fodd bynnag, dw i ddim yn siŵr y bydd ei ego yn caniatáu hynny. Gallwn ni ddisgwyl gorthrwm pan ddaw i brotestio, a dim gwiriadau na chydbwysedd i’w atal e.
Mae’r math yma o gyfundrefn yn pasio, wrth iddyn nhw wynebu realiti wrth gadw at ddogma ideolegol. Ond gall hynny gymryd amser hir. Ac mae’n teimlo fel diwedd democratiaeth am genhedlaeth.
Os oes yna wersi i’w dysgu o gyfundrefnau awdurdodol, y wers honno yw y bydd personoliaeth arweinydd y gyfundrefn yn dylanwadu ar yr hyn mae’n ei gyflawni. Mae modd profi hyn drwy arbrawf ar sail meddyliau. Mae Ian Kershaw yn dyfalu pe na bai Hitler wedi bodoli, byddai unrhyw gyfundrefn ffasgaidd ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf yn yr Almaen wedi bod yn llai eithafol ac yn annhebygol o fod mor ymosodol a diofal o ran tiriogaethau. Nawr, meddyliwch am yr hyn mae personoliaeth Trump yn gofyn amdano.
Gyda Trump “allan” fel ffasgydd, bydd ei gyfundrefn yn defnyddio trais wleidyddol, mesurau tu allan i’r Cyfansoddiad, cwlt personoliaeth a phropaganda i symud eu hagenda yn ei blaen. Efallai y bydd yn cymryd sbel fach i gyrraedd pen y daith, ond mae ffasgaeth yn broses raddol – fel berwi broga.
Yn olaf, mae cyfundrefnau ffasgaidd yn llwgr, yn fympwyol ac yn aneffeithlon. Does dim ystyr i’r gyfraith bellach, ac mae perthnasau’n bwysicach. Os ydych chi’n credu y bydd Trump yn dda ar gyfer busnesau a’r economi, rydych chi wedi’ch camarwain. Mae cildwrn yn rheoli, a buddiannau hunanfoddhaus yn ennill y dydd.
Mae hon yn erthygl anodd i’w hysgrifennu, gan fy mod i’n disgwyl llawer gwell gan America. Doeddwn i ddim wedi disgwyl i Americanwyr droi’r cloc yn ôl i Eidal yr 1920au neu i Almaen y 1930au. Efallai fy mod i’n gobeithio am y gorau, ond mae fy ymennydd rhesymegol yn dweud wrtha i am ofni’r gwaethaf.
Efallai y dof fi’n ôl i Gymru (neu efallai i Weriniaeth Iwerddon) yn fuan, a mynd am dro dros y ffin i Ganada ar y ffordd.