Mae’r criw sy’n ceisio prynu hen dafarn yng Ngwynedd i’w throi’n fenter gymunedol yn teimlo’n “galonog” yn sgil y gefnogaeth i’w cynlluniau.
Caeodd tafarn y Wynnes Arms ym Manod – sy’n rhan o Flaenau Ffestiniog ond yn cael ei ystyried yn bentref answyddogol – wyth mlynedd yn ôl.
Daeth ar y farchnad am £200,000 fis diwethaf, ac mae trigolion lleol yn awyddus i’w phrynu er mwyn ei rhedeg fel tafarn a chanolfan gymunedol.
Mae Bro Ffestiniog yn gartref i 17 o fentrau cymunedol, gyda 77 o bobol ar fyrddau’r holl fentrau.
Denodd cyfarfod cyhoeddus brys tua 60 o bobol ddiwedd mis Medi, er mwyn i bobol leol gael rhoi eu barn ar y syniad o brynu’r Wynnes.
‘Calon i’r gymuned’
“Rydyn ni’n awyddus i gael Wynnes yn ôl fel tŷ tafarn a chanolfan gymunedol,” meddai Nia Parri-Roberts, sy’n byw ym Manod ac yn aelod o grŵp Wynnes Cymunedol, wrth golwg360.
“Mae o’n adeilad bendigedig.
“Mae o wedi bod yn galon i’r gymuned, ac wedi bod yn lle sydd wedi bod yn llawn bwrlwm ac atgofion bendigedig efo fo.
“Yndan, rydan ni eisiau tŷ tafarn, ond mae’n anodd cadw tŷ tafarn i fynd drwy’r wythnos.
“Gafodd yna gymaint o bethau eu rhannu – caffi, siop, rhywle i bobol ifanc, rhywle i bobol hŷn, rhywle i ddysgu Cymraeg, dysgu crefftau… Cadw’r hen Wynnes, a dod â lot o bethau eraill mewn iddo fo.
“Ar ôl i’r lle fod ar gau am wyth mlynedd, roedd pawb yn gweld ei golli fo gymaint.
“Mae yna fwy o gythraul ym mhawb rŵan i wneud rhywbeth.
“Mae o’n adeilad mor dlws, sydd wedi bod yn llawn bwrlwm; mae gweld y dirywiad a gweld o’n mynd yn adfail wedi bod yn dorcalonnus i bawb.”
Roedd y Wynnes yn arfer cael ei ddefnyddio i gynnal cyfarfodydd, ar ben-blwyddi plant, ar gyfer dathliadau Calan Gaeaf plant, yn ogystal â bod yn dafarn gyffredin, meddai.
‘Neb yn mynd i ddod i achub y dref’
Mae Gwenlli Evans yn gweithio i Gwmni Bro Ffestiniog, cwmni ymbarél sy’n cynrychioli mentrau cymunedol yr ardal.
Hi a Nia Parri-Roberts sydd wedi gwthio’r cwch i’r dŵr.
“Yn Blaenau, mae o’n rhan o’n diwylliant ni; does yna neb yn mynd i ddod yma ac achub y dref, felly mae’r gymuned yn ei wneud o’i hun,” meddai Gwenlli Evans, gan ddweud wrth golwg360 ei bod hi wedi’i syfrdanu gan gryfder y brwdfrydedd ymysg trigolion lleol a’u parodrwydd i helpu.
“Mae gennym ni ddwysedd uchel o fentrau cymdeithasol yma.
“Be’ mae hynna’n ei ddangos i’r gymuned ym Manod ydy, yndi, mae o’n bosib, a bod cymuned yn gallu cymryd yr awenau yna, a sicrhau bod y budd yn dod i’r gymuned a ddim i asiantau o’r tu allan.”
Ychwanega’r ddwy eu bod nhw’n ddiolchgar iawn am gefnogaeth a chyngor tafarndai cymunedol eraill ledled Gwynedd.
Gwta ddwy filltir o’r Wynnes, mae tafarn gymunedol arall, sef y Pengwern yn Llan Ffestiniog.
Agorodd honno fel tafarn gymunedol yn 2011, ac maen nhw hefyd wedi cynnig cyngor a chefnogaeth i fenter y Wynnes.
“Mae pobol Pengwern mor gefnogol, a’r syniad ydy ein bod ni’n gweithio efo’n gilydd a ddim yn sathru traed ein gilydd, bo ni ddim yn dwyn cwsmeriaid, ein bod ni’n gwneud pethau ar wahanol adegau,” meddai Nia Parri-Roberts am yr heriau a’r cyfleoedd sy’n codi o gael dwy dafarn gymunedol mor agos at ei gilydd.
“Dw i’n meddwl bod o’n mynd i dynnu mwy o bobol mewn i wahanol lefydd os wyt ti’n cael gwahanol bethau.
“Y peth pwysig ydy ein bod ni’n gweithio efo’n gilydd, ac maen nhw eisiau gwneud hynna.”
“Fysa fo’n wych os fysa Blaenau’n gallu dod yn rhywle lle mae pobol yn dod a gweld yr arloesedd sy’n digwydd yma, ac mae hynna’n golygu’n bod ni angen datblygu ym mhob un rhan o Blaenau,” meddai Gwenlli Evans wedyn.
“Dyna sy’n gryf yn Blaenau; does yna ddim yr elfen yma o gystadleuaeth.”
Camau nesaf
Ers y pandemig, mae pobol yn fwy awyddus i ddod ynghyd, yn ôl Gwenlli Evans, sy’n ychwanegu y bydd y Wynnes yn hwyluso hynny.
“Rydyn ni wedi arfer efo mwy a mwy o wasanaethau ac adnoddau’n cael eu cymryd allan o gymunedau rŵan, a rywsut rydyn ni wedi normaleiddio peidio gallu bod efo’n gilydd,” meddai.
“[Mae] pawb yn unfrydol eisiau datblygu rhywbeth yma, a hefyd lot fawr o enwau ar y pwyllgor, sy’n ein gadael ni mewn lle andros o gryf; ti angen y niferoedd yna.”
Pris yr adeilad, sydd angen tipyn o waith tu mewn – ond gwaith “doable” – ydy un o’r heriau, meddai Nia Parri-Roberts, gan ychwanegu bod angen iddyn nhw gael rhywun annibynnol i’w brisio.
Y cam cyntaf fyddai agor y dafarn lawr grisiau, cyn meddwl datblygu’r gofod fyny’r grisiau, fu’n fflat yn y gorffennol.
Ambell syniad ar hyn o bryd yw ei ddatblygu’n ofod i bobol ifanc neu fel lle i bobol weithio.
Bydd cyfarfod cyhoeddus arall yn cael ei drefnu’n fuan hefyd, a byddan nhw’n sefydlu fel menter gymdeithasol er mwyn gweithio ar gynllun busnes i sicrhau y bydd y fenter yn un hyfyw.
“Fel endidau cymunedol, rydyn ni’n dweud ‘nid-er-elw’, ond rydyn ni angen sicrhau ein bod ni’n cael pres i’w gadw fo’n gynaliadwy,” meddai Gwenlli Evans.