Mae Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru wedi cael gwers Gymraeg gan Aelod Seneddol Ceidwadol yn San Steffan.
Wrth ofyn cwestiwn i Jo Stevens, gafodd ei phenodi yng Nghabinet newydd Syr Keir Starmer ar ôl yr etholiad cyffredinol yn yr haf, defnyddiodd Tom Tugendhat yr enw Cymraeg Ynys Môn, gan ychwanegu “neu Anglesey iddi hi”.
Dywedodd fod ganddi gyfle i “hybu rhan hanfodol o’n Hundeb”.
“Beth mae hi’n mynd i’w wneud i sicrhau bod y grym sy’n ein dal ni ynghyd yn dod allan o Ynys Môn – neu Anglesey iddi hi?”
Mims Davies
Daw sylwadau Tom Tugendhat wrth i Kemi Badenoch, arweinydd newydd y Ceidwadwyr, benodi Mims Davies yn Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Cymru yn ei Chabinet newydd.
Mae Mims Davies hefyd wedi derbyn cyfrifoldeb am fenywod.
Mae ei phenodiad wedi’i groesawu gan Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, ond wedi’i feirniadu gan Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, am nad yw Mims Davies yn cynrychioli etholaeth yng Nghymru.
“Llongyfarchiadau cynnes i Ysgrifennydd Gwladol newydd yr Wrthblaid ar Gymru,” meddai Andrew RT Davies.
“Dw i’n edrych ymlaen yn fawr at gael gweithio gyda chi er mwyn sefyll o blaid Cymru a Phrydain.
Yn dilyn yr etholiad cyffredinol ym mis Gorffennaf, Byron Davies, Arglwydd Gwŷr, oedd yn cysgodi Ysgrifennydd Gwladol Cymru yng Nghabinet yr Wrthblaid dan Rishi Sunak.
Mae’n eistedd yn Nhŷ’r Arglwyddi bellach, ond roedd yn cynrychioli etholaeth Gwŷr yn Nhŷ’r Cyffredin rhwng 2015 a 2017, a Rhanbarth De Orllewin Cymru yn y Senedd ym Mae Caerdydd rhwng 2011 a 2015.
Fe gollodd y Ceidwadwyr bob un o’u seddi yng Nghymru ym mis Gorffennaf, felly dim ond o Dŷ’r Arglwyddi neu o etholaethau y tu allan i Gymru yn Nhŷ’r Cyffredin mae’r blaid yn medru penodi gweinidog i gysgodi Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
Yn 2018, cafodd Mims Davies ei phenodi’n Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru yn Llywodraeth Theresa May.
Mewn cyfweliad bryd hynny, pwysleisiodd fod ei theulu’n “hanner Cymreig”, a’i bod hi wedi byw yn Abertawe am naw mlynedd wrth ddechrau’i gyrfa.
Cwestiynu’r penodiad
“Pam fod y Torïaid wedi penodi’r Aelod Seneddol dros Ddwyrain Grinstead ac Uckfield yn Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Cymru yn hytrach nag un o’u haelodau seneddol Cymreig talentog?” gofynna Liz Saville Roberts ar X (Twitter gynt).
Mewn datganiad, dywed ei bod hi’n “llongyfarch” Mims Davies.
“A hithau’n Aelod Seneddol Dwyrain Grinstead ac Uckfield yn Sussex, chwarae teg iddi am gymryd un dros y tîm ar ôl i’r Torïaid fethu â dal gafael ar yr un aelod seneddol Cymreig,” meddai.
“Mae’n dangos, ar ôl yr etholiad cyffredinol, mai Plaid Cymru yw’r wrthblaid Gymreig go iawn i Lafur yn San Steffan.”