Mae Boris Johnson wedi cael ei gyhuddo o wneud tro pedol eto fyth wrth benderfynu peidio â chwrdd â chynrychiolwyr teuluoedd y rhai fu farw yn ystod ymlediad y coronafeirws.

Dywedodd yn gyhoeddus yr wythnos ddiwethaf y byddai’n barod i gyfarfod â nhw wrth i’r ymgyrchwyr geisio trefnu cyfarfod.

Ond mae’r ymgyrchwyr sy’n galw am ymchwiliad cyhoeddus i’r modd y mae Llywodraeth Prydain wedi ymateb i’r pandemig bellach wedi derbyn llythyr sy’n dweud iddo wrthod gwahoddiad i gyfarfod â nhw.

“Mae’n un tro pedol ar ôl y llall,” meddai Jo Goodman, un o’r ymgyrchwyr a gollodd ei thad yn sgil y feirws.

“Mae’r prif weinidog wedi gwneud 360: osgoi pump o lythyrau, cytuno ar y teledu i gyfarfod â ni, a dweud wrthon ni’n awr yn dawel fach ei fod e’n rhy brysur. Mae’n ddideimlad.”

Troeon trwstan

Dywedodd Layla Moran, y Democrat Rhyddfrydol, mewn llythyr at Boris Johnson iddi gael “sioc” o glywed ei fod e wedi “gwrthod” cyfarfod â’r cynrychiolwyr sy’n gweithredu ar ran 1,600 o deuluoedd.

Dywedodd Boris Johnson wrth Sky News ei fod e’n barod i ymateb i bob llythyr a ddaw, er nad oedd e’n ymwybodol o’r un o’r llythyrau, a’i fod e hefyd yn barod i gyfarfod â’r teuluoedd.

Mewn llythyr at Jo Goodman, dywedodd na fyddai cyfarfod bellach “yn bosib”.

Dywedodd hefyd ei fod e’n ymwybodol o gamau cyfreithiol ynghylch adolygiad annibynnol ac y byddai’n ymateb i hynny “ar adeg briodol”.

Ymateb Llafur

Mae’r Blaid Lafur wedi beirniadu tro pedol Boris Johnson.

“Mae’r datguddiadau hyn fod rhaid i deuluoedd oedd yn galaru ysgrifennu at Boris Johnson bum gwaith yn gofyn am gyfarfod â fe – a’i fod e wedi mynd yn groes i’w addewid a gwrthod yn syfrdanol, ac yn ypsetio cynifer y mae eu teuloedd a’u bywydau wedi’u heffeithio gan Covid yn y fath fodd,” meddai Rachel Reeves, y Gweinidog Swyddfa’r Cabinet cysgodol.

“Mae 41,504 o bobol, yn drasig iawn, wedi colli eu bywydau i’r feirws yma.

“Y peth lleiaf y gallai’r prif weinidog ei wneud yw ymateb yn onest i’w teuluoedd a bod â digon o galon i gyfarfod â rhai ohonyn nhw a’u cynrychiolwyr.

“Mae’r prif weinidog wedi bod yn mynd yn groes i’w addewid drwy’rhaf – ond mae peidio â chyfarfod â theuluoedd sy’n galaru’n mynd i ddyfnderoedd newydd.”