Mae arweinydd Llafur yr Alban dan bwysau i gamu o’r neilltu, wrth i nifer o aelodau blaenllaw’r blaid feirniadu ei arweinyddiaeth.

Daw’r galwadau ar ôl i James Kelly, llefarydd cyfiawnder y blaid yn Holyrood, adael ei swydd gan honni y byddai’n well i’r blaid pe bai Richard Leonard hefyd yn camu o’r neilltu.

“Rhaid i Richard gamu o’r neilltu,” meddai James Kelly, gan ddweud ei fod e bellach yn gwneud sylwadau cyhoeddus ar ôl dweud hynny wrtho’n dawel fach.

Cafodd Richard Leonard ei ethol yn arweinydd yn 2017, gan olynu Kezia Dugdale.

Ond mae’n cael ei ystyried o hyd yn gefnogwr Jeremy Corbyn sydd, yn ôl rhai, yn dal y blaid yn ôl.

Mae Llafur yn drydydd mewn polau piniwn ar hyn o bryd yn yr Alban, y tu hwnt i’r SNP a’r Ceidwadwyr.

Ond roedden nhw’n bumed yn etholiadau Ewrop y llynedd, gyda llai na 10% o’r bleidlais.

Yn ôl James Kelly, mae’r un patrwm yn wir o fewn y Blaid Lafur, lle mae ganddo fe gyn lleied o gefnogaeth erbyn hyn.