Mae cyfyngiadau ar ymweld ag aelwydydd eraill wedi cael eu hailgyflwyno yn Glasgow a dwy ardal gyfagos yn dilyn cynnydd mewn achosion o’r coronafeirws.

Mae’r rheolau newydd yn effeithio ar fwy na 800,000 o bobol yn ninas Glasgow, Gorllewin Sir Dunbarton a Dwyrain Sir Renfrew.

Daw hyn wedi i 135 o’r 314 o achosion newydd yn yr Alban dros y ddau ddiwrnod diwethaf gael eu cofnodi yn ardal Glasgow a Clyde.

Mewn cynhadledd i’r wasg ddoe (dydd Mawrth, Medi 1), dywedodd Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, fod Covid-19 am barhau i fod yn beryglus.

“Mae’r feirws yn ymledu eto, yn enwedig yn yr ardaloedd yma,” meddai.

“Rydym yn credu ei fod, yn yr ardaloedd hyn, yn ymledu yn bennaf o ganlyniad i bobol yn dod ynghyd mewn cartrefi,” meddai.

Egluro’r cyfyngiadau

Mae’r cyfyngiadau’n golygu na fydd pobol sy’n byw yn yr ardaloedd yma yn cael ymweld â chartref rhywun arall.

Bydd pobol sydd mewn cartrefi estynedig yn gallu parhau i gwrdd dan do, ond dim ond ymweliadau dan do hanfodol sy’n bosib mewn ysbytai a chartrefi gofal o hyn allan.

Gall pobol o wahanol aelwydydd barhau i gwrdd yn yr awyr agored cyn belled â’u bod yn dilyn y canllawiau.