Bydd 14 o bobol yn mynd gerbron llys heddiw (dydd Mercher, Medi 2) wedi’u cyhuddo o roi arfau i’r rhai oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad ar swyddfeydd Charlie Hebdo ym mis Ionawr 2015.

Cafodd 17 o bobol eu lladd, gan gynnwys 12 o staff golygyddol Charlie Hebdo.

Ar drothwy’r achos llys, cafodd delweddau dadleuol o’r proffwyd Mohammed eu cyhoeddi gan Charlie Hebdo ddoe (dydd Mawrth, Medi 1).

Dywedodd Cherif a Said Kouachi, dau frawd oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad, iddyn nhw gwblhau’r ymosodiad yn enw al-Qaida.

Fe wnaethon nhw ladd plismon cyn i’w ffrind Amedy Coulibaly fynd i mewn i archfarchnad a lladd pedwar o wystlon a phlismones wrth frolio Daesh – neu’r Wladwriaeth Islamaidd.

Cafodd y tri ymosodwr eu lladd gan yr heddlu.

Arweiniodd y llofruddiaethau at don o ymosodiadau ar draws Ffrainc, gan ladd mwy na 250 o bobol.

Wedi’r ymosodiadau, unodd miliynau o bobol mewn gorymdeithiau ledled y byd o dan y slogan “Je suis Charlie” (Charlie ydw i).