Mae’r cyhoeddiad dychanol Charlie Hebdo yn Ffrainc yn cyhoeddi delweddau dadleuol o’r proffwyd Mohammed ar drothwy achos llys yn ymwneud ag ymosodiad ar eu swyddfeydd yn 2015.

Ym mis Ionawr 2015, fe ddigwyddodd dau ymosodiad ar swyddfeydd y cyhoeddiad ac archfarchnad kosher, a chafodd 17 o bobol eu lladd, gan gynnwys 12 o staff golygyddol Charlie Hebdo.

Bydd dynes a 13 dyn yn mynd gerbron llys yfory (dydd Mercher, Medi 2) wedi’u cyhuddo o roi arfau i’r rhai oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad.

Yn ôl y golygyddion, mae’r ymosodiadau’n perthyn i’r gorffennol, ond nad oes modd “ailysgrifennu na dileu’r gorffennol”.

Dywedodd Cherif a Said Kouachi, dau frawd oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad, iddyn nhw gwblhau’r ymosodiad yn enw al-Qaida.

Fe wnaethon nhw ladd plismon cyn i’w ffrind Amedy Coulibaly fynd i mewn i archfarchnad a lladd pedwar o wystlon a phlismones wrth frolio Daesh – neu’r Wladwriaeth Islamaidd.

Cafodd y tri ymosodwr eu lladd gan yr heddlu.

Cartwnau

Cafodd y cartwnau sydd wedi’u cyhoeddi eto’r wythnos hon eu cyhoeddi am y tro cyntaf gan bapur newydd yn Nenmarc yn 2006.

Roedd Mwslimiaid yn eu gwrthwynebu gan ddweud eu bod nhw’n sarhau eu ffydd a’u harweinydd.

Mae Charlie Hebdo yn adnabyddus am ddychanu pob crefydd.

Fe ddigwyddodd ymosodiad tân ar eu swyddfeydd yn 2011, ac fe fu’n rhaid i’r heddlu gynnig gwarchodaeth i’w golygyddion sy’n dal yn ei lle hyd heddiw.

Cafodd enwau pob un o’r rhai fu farw eu rhestru yn y cyhoeddiad yr wythnos hon gan Laurent Sourisseau, cyfarwyddwr y papur oedd wedi goroesi’r ymosodiad.