Mae Liz Saville Roberts yn galw ar gorff Cyfoeth Naturiol Cymru i gynnal asesiad brys a thrylwyr o effeithlonrwydd cynlluniau i reoli a chynnal a chadw afonydd yn dilyn y llifogydd diweddar yn ardal Beddgelert.

Aeth Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd i’r ardal dros y penwythnos i gyfarfod â thrigolion a pherchnogion busnesau wrth iddyn nhw ddechrau cyfri’r gost.

Mae lle i gredu bod llif afon Colwyn wedi’i rwystro, gan achosi i’r afon orlifo ar ffordd A4085 a chartrefi Dolfair.

Mae hi’n dweud nad yw’r mesurau sydd yn eu lle ar hyn o bryd yn ddigonol i atal sefyllfaoedd o’r fath rhag digwydd eto.

‘Effaith ddinistriol’

“Roedd yn dorcalonnus gweld yn uniongyrchol effaith ddinistriol y llifogydd ar drigolion a busnesau lleol ym Meddgelert, ar gyfnod pan roedd nifer o fusnesau yn ail agor ar ôl colli cymaint o fasnach dymhorol oherwydd Covid-19,” meddai Liz Saville Roberts.

“Er nad yw Beddgelert yn ddieithr i law trwm a lefelau dŵr uchel, gyda chydlifiad y Colwyn a’r Glaslyn, dywed trigolion lleol wrthyf mai llifogydd yr wythnos diwethaf oedd y gwaethaf a welsant erioed.

“O siarad â phobl leol a pherchnogion busnes sydd wedi cael eu taro gan y llifogydd hyn, y teimlad pennaf yw nad oes digon yn cael ei wneud i reoli tyfiant coed a llystyfiant i fyny’r Afon Colwyn.

“Roedd yn amlwg o weld y difrod i mi fy hun bod coed wedi golchi i lawr yr afon nes cyrraedd Pont yr Ysgol, gyda’r dŵr yn cael ei gyfeirio allan o’r afon ar y ddwy ochr ac i’r A4085, gan orlifo i eiddo cyfagos.

“Byddwn felly yn annog Cyfoeth Naturiol Cymru fel cam cychwynnol, i gynnal asesiad o sut mae coed a llystyfiant yn cael ei reoli ar yr Afon Colwyn, er mwyn tawelu meddwl y gymuned leol bod camau’n cael eu cymryd i adnabod yr hyn a gyfrannodd at y llifogydd ofnadwy hyn.”