Mae Kirsty Williams yn dweud bod Llywodraeth Cymru am ddarparu cyllid gwerth £29m i awdurdodau lleol allu cefnogi ysgolion, wrth ddweud hefyd y gall fod oedi cyn cynnal arholiadau yn 2021.
Daw’r cyhoeddiad wrth i ysgolion Cymru baratoi i ailagor eu drysau yn dilyn pandemig y coronafeirws.
“Wrth i athrawon a phenaethiaid baratoi i groesawu disgyblion yn ôl, mae fy neges iddyn nhw yn glir, mae’r arian yno mewn cyllidebau cynghorau i gyflogi athrawon a chymhorthion dysgu ychwanegol ar gyfer y flwyddyn academaidd,” meddai.
“Mae’r gefnogaeth ychwanegol, sydd yn werth £29m wedi ei dargedu at flynyddoedd 11, 12 ac 13 yn ogystal â disgyblion sydd o dan anfantais.”
Llywodraeth Cymru “yn disgwyl i ddisgyblion wisgo gwisgoedd ysgol”
Bydd disgwyl i ddisgyblion wisgo gwisgoedd ysgol wrth ddychwelyd i ysgolion, meddai.
Doedd dim rhaid i ddisgyblion wisgo gwisgoedd ysgol cyn gwyliau’r haf, ond bydd hynny yn newid nawr bod ysgolion yn ailagor am dymor yr Hydref.
“Rydym eisiau cael gymaint o normalrwydd ag sy’n bosib, felly byddwn yn disgwyl i ddisgyblion wisgo gwisgoedd ysgol a byddai’n dda pe bai’r rhain yn cael eu glanhau mor gyson â phosib,” meddai.
Pwysleisiodd Kirsty Williams fod “Llywodraeth Cymru’n gallu helpu gyda chostau os oes angen cefnogaeth ar rieni”.
Arholiadau
Mae’n dweud y gallai arholiadau gael eu gohirio yn 2021 ar ôl iddyn nhw gael eu canslo eleni.
Mae disgwyl i drafodaethau gael eu cynnal ar y mater â chorff Cymwysterau Cymru.
Er gwaetha’r alwad ar iddyn nhw gael eu canslo’n llwyr, dywed Kirsty Williams mai ei bwriad yw iddyn nhw fynd yn eu blaen.
Ond gallai’r dull o ddysgu’r cyrsiau gael ei newid.
“Ein bwriad ar hyn o bryd yw cynnal arholiadau’r flwyddyn nesaf,” meddai.
“Mae yna drafodaethau ar y gweill ynghylch pryd y gallai’r arholiadau hynny gael eu cynnal.”
Pryder am awyren o Wlad Groeg
Yn y cyfamser, mae Kirsty Williams yn dweud bod Llywodraeth Cymru’n “pryderu” am awyren y cwmni teithio TUI wnaeth hedfan o ynys Roegaidd Zante i Gaerdydd.
Daeth sawl cwyn nad oedd rheolau pellter cymdeithasol yn cael eu dilyn ar yr hediad ac ers cyrraedd Caerdydd, mae 16 o bobol oedd ar yr awyren wedi profi’n bositif am y coronafeirws ac eraill wedi cael cais i ynysu.
Yn ôl Dr Gwen Lowe, ymgynghorydd rheoli clefydau Iechyd Cyhoeddus Cymru, roedd saith o’r achosion hynny yn heintus, neu â’r potensial i fod yn heintus, ar y daith.
“Mae’r rhain yn achosion positif sydd wedi eu cadarnhau ac rydym yn disgwyl i’r nifer hwnnw godi,” meddai.
Dywed Maes Awyr Caerdydd, sydd dan berchnogaeth Llywodraeth Cymru, eu bod yn cydweithio â chwmnïau awyrennau i hwyluso teithio mewn “cyfnod heriol i’r diwydiant”.
Mae’r maes awyr hefyd yn mynnu ei fod yn dilyn canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru, y Swyddfa Dramor a Llywodraeth Prydain.