Cyrhaeddodd dros 1,450 o ffoaduriaid y lan mewn cychod bach yng ngwledydd Prydain yn ystod mis Awst, er gwaethaf addewidion y Gweinidog Cartref Priti Patel am natur “anymarferol” croesi’r Sianel,
Y llynedd, dywedodd mai yn anamal y bydd ffoaduriaid yn cyrraedd Dover.
Serch ymdrechion y Swyddfa Gartref i ddefnyddio awyrennau’r Awyrlu Brenhinol uwchben y Sianel, cyrhaeddodd y nifer fisol uchaf o ffoaduriaid yn ystod mis Awst.
Daw’r cynnydd yn nifer y ffoaduriaid sydd yn cyrraedd gwledydd Prydain yn sgil y tywydd braf, a’r ffaith fod cynifer yn llwyddo i groesi’r Sianel.
Yn yr wythnosau diwethaf, mae’r Swyddfa Gartref wedi ceisio beio awdurdodau Ffrengig, a ‘chyfreithwyr gweithredol’ am y twf yn nifer y ffoaduriaid sydd yn cyrraedd gwledydd Prydain, a’r broses anodd o symud ceiswyr lloches o Brydain ar ôl iddyn nhw gyrraedd.
Galw am ffyrdd diogel a chyfreithlon i ffoaduriaid allu cyrraedd y DU
Mae elusennau’n parhau i alw ar Lywodraeth Prydain i sefydlu ffyrdd diogel a chyfreithlon i ffoaduriaid allu ceisio am loches, yn hytrach na gorfod croesi’r Sianel mewn cychod bach.
Heddiw, (dydd Mawrth, Medi 1), cyrhaeddodd rhagor o ffoaduriaid y lan Dover, ac mae Llu’r Ffiniau, yr RNLI a’r awdurdodau Ffrengig yn parhau i fod yn weithredol yno.
Mae’n bosib y bydd mwy o ffoaduriaid yn cyrraedd Dover yn ddiweddarach heddiw.
Daw’r ffigurau hyn ar ôl i’r Swyddfa Amddiffyn gyhoeddi ddoe (dydd Llun, Awst 31) eu bod nhw am ddefnyddio drôn dros Dover a gafodd ei ddefnyddio gan y fyddin yn Affganistan, a hyny er mwyn cadw golwg ar ffoaduriaid fydd yn croesi’r Sianel.
Dyma’r tro cyntaf i’r Watchkeeper, sef system sy’n hedfan heb griw, gael ei ddefnyddio yng ngwledydd Prydain.