Mae dosbarth cyfan o blant yn ninas Dulyn yn Iwerddon wedi mynd adref o’r ysgol ar ôl i blentyn brofi’n bositif ar gyfer y coronafeirws.

Dywed yr ysgol iddyn nhw anfon y plant adref fel rhagofal ar sail cyngor meddygol, yn ôl RTE.

Dychwelodd y plant i’r ysgol yr wythnos ddiwethaf ar ôl gwyliau’r haf.

Ond nid yr ysgol oedd gwraidd yr achos positif, meddai’r prifathro.