Mae Nicola Sturgeon yn dweud y bydd Llywodraeth yr Alban yn cyhoeddi mesur drafft ar gyfer ail refferendwm annibyniaeth cyn diwedd y cyfnod seneddol presennol.
Bydd y ddeddfwriaeth yn gosod amserlen, telerau a chwestiwn y refferendwm.
Daw’r cyhoeddiad wrth i brif weinidog yr Alban gyhoeddi Rhaglen Lywodraeth yr Alban, gan ddweud mai’r frwydr yn erbyn y coronafeirws fyddai’r flaenoriaeth ac y byddai ail don yn bwrw’r economi’n ddifrifol.
Ond mae’n dweud y gallai’r pandemig “sbarduno” uchelgais yr Alban wrth geisio annibyniaeth.
Mae’n dweud bod y feirws wedi gweddnewid sector cyhoeddus ac economi’r Alban, a bod Brexit hefyd wedi cryfhau’r achos tros adael y Deyrnas Unedig.
Wrth gyhoeddi’r Rhaglen Lywodraeth, dywedodd y byddai wedi gallu cyhoeddi estyniad i’r cynllun ffyrlo, mwy o fenthyca arian a system fewnfudo fwy blaengar pe bai’r Alban yn annibynnol.
“Yn yr etholiad y flwyddyn nesaf, byddwn ni’n dadlau’r achos tros Alban annibynnol a cheisio sêl bendith i hawl yr Alban i ddewis ein dyfodol ein hunain,” meddai.
Ymateb
Ond mae Ceidwadwyr yr Alban wedi ymateb yn chwyrn i’r cyhoeddiad.
“Dydy’r prif weinidog jyst ddim yn ei deall hi,” meddai Douglas Ross, yr arweinydd.
“Mae angen i ni symud yr Alban yn ei blaen a gwella o’r argyfwng yma gyda’n gilydd, nid dychwelyd at raniadau’r gorffennol.”