Mae aelod seneddol a gafodd ei arestio ar amheuaeth o dreisio wedi “cytuno o’i wirfodd” i beidio â mynd i Dŷ’r Cyffredin tra ei fod ar fechnïaeth.

Daw cyhoeddiad Syr Lindsay Hoyle, Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, wrth iddo annog aelodau i beidio â defnyddio braint seneddol i enwi’r unigolyn.

Mae Boris Johnson, prif weinidog Prydain, dan y lach am beidio â diarddel yr unigolyn, gan ddweud y daw penderfyniad ar ddiwedd ymchwiliad yr heddlu.

Cafodd Heddlu Llundain wybod ar Orffennaf 31 am droseddau honedig yn ymwneud â phedwar digwyddiad mewn sawl eiddo yn Llundain.

Cafodd dyn ei arestio ar Awst 1 ar amheuaeth o dreisio, a’i gludo i’r ddalfa yn nwyrain Llundain, a’i ryddhau ar fechnïaeth tan fis Tachwedd.