Roedd cyfraddau hunanladdiadau ymysg dynion yng Nghymru a Lloegr ar eu huchaf ers dau ddegawd yn 2019, yn ôl ffigurau swyddogol.
Mae data newydd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, a gafodd ei gyhoeddi heddiw (dydd Mawrth, Medi 1), yn dangos bod 5,691 o hunanladdiadau wedi eu cofrestru yng Nghymru a Lloegr yn 2019.
Roedd tua thri chwarter ohonyn nhw’n ddynion – 4,303 o gymharu â 1,388 o ferched.
Roedd cyfraddau hunanladdiadau ymhlith dynion yn 16.9 marwolaeth ym mhob 100,000, sef y gyfradd uchaf ers 2000.
Arhosodd y cyfraddau yn gyson gyda rhai 2018.
Dynion rhwng 45 a 49 oedd â’r gyfradd uchaf o hunanladdiadau, gyda chyfradd o 25.5 marwolaeth ym mhob 100,000.
Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod cynnydd mewn niferoedd hunanladdiadau ymysg dynion canol oed yn sgil caledi economaidd, unigrwydd ac alcoholiaeth, a chan mai dyma’r grŵp sydd lleiaf tebygol o ofyn am gymorth.
Dangosodd y data fod niferoedd hunanladdiadau ymhlith merched yng Nghymru a Lloegr ar eu huchaf ers 2004, gyda chyfradd o 5.3 o farwolaethau ym mhob 100,000.
Cynyddodd cyfradd hunanladdiadau ymysg merched rhwng 10 a 24 oed yn sylweddol, o 81 marwolaeth yn 2012 i 159 o farwolaethau yn 2019.
Ansicrwydd ynghylch cyfraddau hunanladdiadau rhwng Ebrill a Mehefin eleni
Mae data dros dro, a gafodd ei gyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, wedi dangos bod 6.9 hunanladdiad i bob 100,000 person yn Lloegr rhwng Ebrill a Mehefin eleni.
Roedd hyn yn gyfystyr â 845 o farwolaethau, y nifer isaf mewn unrhyw chwarter blwyddyn ers 2001.
Ond ychwanegodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod y nifer yn isel oherwydd bod cwestau yn cael eu gohirio yn sgil argyfwng y coronafeirws, mae’n debyg.
“Dylid dehongli’r nifer isel o farwolaethau sydd wedi eu cofrestru fel hunanladdiadau rhwng Ebrill a Mehefin 2020 gyda gofal,” meddai llefarydd.
“Mae pob hunanladdiad yn Lloegr yn cael ei ymchwilio gan grwner, a chan ei bod yn cymryd tua 5 mis i gynnal cwêst, nid ydym yn sicr o gyfanswm nifer yr hunanladdiadau a ddigwyddodd yn ystod y pandemig.”
“Atal hunanladdiadau yn flaenoriaeth er mwyn achub bywydau.”
Yn ôl Ruth Sutherland, prif weithredwr elusen y Samariaid, mae eu hymchwil wedi dangos fod defnyddwyr eu gwasanaeth yn fwy pryderus a gofidus nawr nag oedden nhw cyn y pandemig.
“Nid yw’n anocheladwy y bydd cyfraddau hunanladdiadau yn cynyddu yn sgil y coronafeirws, ond gwyddom fod y pandemig yn effeithio ar fywydau pobol, ac yn gwaethygu rhai ffactorau sydd yn rhoi pobol sydd eisoes yn fregus mewn risg o derfynu eu bywydau,” meddai.
“Mae gwirfoddolwyr yn dweud wrthym fod nifer o’n galwyr yn bryderus am golli eu swyddi neu eu busnesau, neu o golli eu harian.
“Yn ogystal, mae nifer yn poeni am anallu i dalu rhent neu forgais, anallu i gynnal eu teuluoedd, ac yn ofni digartrefedd.”
Dywedodd ei bod yn poeni yn benodol am bobol sydd eisoes â chyflyrau iechyd meddwl, pobol ifanc sydd yn hunan-niweidio a dynion canol oed llai cefnog.
“Mae’n hanfodol ein bod yn cefnogi’r grwpiau hyn, ac mae’n rhaid i atal hunanladdiadau fod yn flaenoriaeth er mwyn achub bywydau,” ychwanegodd.