Mae teyrngedau wedi’u rhoi i ddyn 26 oed fu farw mewn gwrthdrawiad yng Ngwauncaegurwen.

Bu farw Cameron Samuel Rees mewn beic modur oddi ar y ffordd toc cyn 1 o’r gloch brynhawn dydd Sul (Awst 30).

“Roedd Sam yn fab, llysfab, brawd, llysfrawd, brawd-yng-nghyfraith, ŵyr, ewythr, nai, cefnder, partner, ffrind ac yn dad i’w fachgen bach hyfryd Calan,” meddai’r teulu.

“Roedd Sam yn foi hapus oedd bob amser â gwên ar ei wyneb ac roedd pawb oedd yn ei nabod ac a wnaeth gwrdd â fe’n ei garu.

“Roedd Sam yn un o’r bobol hyfrytaf y gallech chi gwrdd â fe, ac roedd ganddo fe amser i bawb roedd e’n eu nabod bob amser.

“Roedd Sam wrth ei fodd yn yr awyr agored ac yn gyrru ei feic modur gyda’i ffrindiau a’i deulu.

“Yn drist iawn, ar yr achlysur hwn, cafodd bywyd Sam ei gymryd yn rhy fuan o lawer tra ei fod e allan yn gwneud yr hyn roedd e wrth ei fodd yn ei wneud ar ei feic modur.”

Dywed y teulu fod ei gariad at ei fab “yn rhywbeth arall”, ei fod e “wedi dotio ato ac yn byw er ei fwyn e”.

“Calan oedd popeth i Sam, ei fyd cyfan ac roedd e bob amser wrth ei ochr,” meddai’r teulu wedyn.

“Roedd Sam wrth ei fodd fel tad.

“Roedd Sam yn caru bod yn dad yn fwy nag unrhyw beth.”

Apêl yr heddlu

Mae Heddlu’r De yn apelio am dystion i’r digwyddiad yn ardal Tairgwaith ger Gwaun Cae Gurwen.

Tarodd y beic modur KTM lliw oren wal eiddo.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.