Bydd rhaid i bobol sy’n teithio o ynys Zante yng Ngwlad Groeg i Gymru hunanynysu am 14 diwrnod.

Cyhoeddodd Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, neithiwr (Medi 1) y byddai pob teithiwr o Zante hefyd yn cael cynnig prawf ar gyfer Covid-19 o fewn 48 awr ar ôl dychwelyd.

Daw’r cyhoeddiad ar ôl i o leiaf 16 o bobol a oedd ar daith Tui 6215 o Zante i Gaerdydd ddydd Mawrth diwethaf (Awst 25) brofi’n bositif ar gyfer Covid-19.

Mae 193 o bobol oedd ar yr awyren eisoes wedi eu rhybuddio i hunanynysu, ar ôl i 16 o achosion o’r coronafeirws sy’n gysylltiedig â’r teithwyr gael eu cadarnhau.

Ar hyn o bryd, mae Gwlad Groeg wedi ei heithrio o restr cwarantîn gwledydd Prydain.

Ond cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban neithiwr (nos Fawrth, Medi 1) y byddai’n rhaid i bobol sy’n dychwelyd o Roeg hunanynysu am 14 diwrnod o ddydd Iau (Medi 3) ymlaen.

30 o achosion yn deillio o 4 hediad

Dywedodd Vaughan Gething ei fod yn rhannu’r un pryder ag y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi’i fynegi ynghylch y risg i iechyd y cyhoedd yn sgil teithwyr sy’n dychwelyd i Gaerdydd o Zante.

“Mae ein gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu wedi nodi sawl clwstwr ar wahân sy’n gysylltiedig ag ynys Zante/Zakynthos yng Ngwlad Groeg,” meddai.

“Ar hyn o bryd mae chwe chlwstwr gyda chyfanswm o fwy na 30 o achosion yn yr wythnos ddiwethaf yn deillio o bedwar hediad – a dau o’r rheiny wedi glanio yn Lloegr.

“Rwyf wedi pwyso am gyfarfod cynnar â Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r gwledydd datganoledig yfory i ystyried yr asesiad risg diweddaraf gan y Gydganolfan Bioddiogelwch.

“Mae’n amlwg fod angen inni ystyried y posibilrwydd o wneud newidiadau i’r Rheoliadau yng Nghymru a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i deithwyr sy’n cyrraedd y Deyrnas Unedig o Wlad Groeg, a mannau eraill o bosibl, i hunanynysu ar ôl dychwelyd.”