Mae pobol wedi bod yn protestio yn Los Angeles ar ôl i seiclwr croenddu gael ei saethu’n farw gan yr heddlu ar ôl iddo ymosod ar blismon.

Cafodd Dijon Kizzee ei stopio wrth seiclo yn y ddinas ddydd Llun (Awst 31).

Dywed yr heddlu fod y dyn 29 oed wedi taro plismon a gollwng eiddo oedd yn cynnwys dryll.

Mae pobol wedi bod yn gorymdeithio o leoliad y digwyddiad yn Westmont i orsaf heddlu.

Wisconsin

Daw’r brotest ddiweddaraf wrth i bobol barhau i brotestio ar ôl i Jacob Blake gael ei saethu yn Kenosha yn Wisconsin.

Roedd yr Arlywydd Donald Trump yn y dalaith ddoe (dydd Mawrth, Medi 1), ac fe wnaeth e roi’r bai ar drais yn y cartref am weithredoedd mae’n eu galw’n “wrth-Americanaidd”.

Ond wnaeth e ddim cyfeirio at y rheswm pam fod pobol yn protestio yn dilyn ymosodiad ar Jacob Blake, sef ei fod e wedi cael ei saethu yn ei gefn.

Mae Donald Trump yn dweud mai’r Democratiaid sydd ar fai am drais yn y ddinas a’r dalaith.