Mae gwasanaethau Rheilffyrdd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru ar ddychwelyd gyda chymorth gan grant argyfwng gwerth £250,000 gan y Loteri Genedlaethol ar ôl seibiant yn sgil ymlediad y coronafeirws.

Gwasanaeth Rheilffyrdd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru yw un o’r rheilffyrdd twristiaid mwyaf o ran llwyddiant ac mae’n un o’r rheilffyrdd treftadaeth yng ngwledydd Prydain sy’n denu miliynau o ymwelwyr bob blwyddyn.

Ailddechreuodd gwasanaethau Rheilffordd Ffestiniog ar Orffennaf 20, a gwasanaethau Rheilffordd Ucheldir Cymru ar Awst 18, ond â llai o deithwyr er mwyn cydymffurfio â chanllawiau ymbellhau cymdeithasol.

Golyga’r cyfyngiadau ar deithwyr fod ganddyn nhw lai o incwm ar hyn o bryd.

Arian yn cynnal y gwasanaeth ar gyfer y dyfodol

Mae Rheilffyrdd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru ymysg nifer o reilffyrdd treftadaeth yng ngwledydd Prydain sydd wedi derbyn cyllid gan Gronfa Argyfwng Treftadaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, a roddodd £50m at ei gilydd i gefnogi’r sector treftadaeth yn sgil argyfwng Covid-19.

Mae’r arian yn cynorthwyo sefydliadau i ailagor, a bydd yn galluogi Rheilffyrdd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru i gynnal a chadw eu hadeiladau treftadaeth.

“Heb yr arian hwn, yn syml ni fyddai modd i ni fforddio parhau â’r gwaith hynod bwysig hwn gan i ni golli pedwar mis o’n tymor brig i bob pwrpas,” meddai Paul Lewin, Rheolwr Cyffredinol Rheilffyrdd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru.

“Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi bod yn gefnogol iawn o’n prosiect parhaus i sicrhau dyfodol safle’r gweithdy rheilffordd hanesyddol yn Boston Lodge trwy waith cadwraeth ar yr adeiladau o’r 19eg ganrif sy’n dal i sefyll er mwyn sicrhau y gallant barhau i weithredu’n effeithiol i mewn i’r 21ain ganrif.

“Diolch i gefnogaeth gwerthfawr tu hwnt Y Loteri Genedlaethol a’i chwaraewyr, rydym yn falch o gadarnhau bod y prosiect hwn yn parhau heb oedi, er gwaetha’r sefyllfa heriol sydd ohoni.

“Daeth COVID-19 â’n holl ymdrechion i stop sydyn yr oedd ganddo’r potensial i fod yn niweidiol iawn.

“Golyga’r gefnogaeth ychwanegol gan Y Loteri Genedlaethol yn ystod yr argyfwng hwn y gallwn lunio cynllun sy’n gweld ein busnes yn goroesi’r heriau yn y tymor byr iawn a symud ymlaen i ffynnu unwaith eto yn y dyfodol.”

‘Hollol ddibynnol’

“Mae ein rheilffyrdd treftadaeth yn hollol ddibynnol ar fisoedd yr haf ar gyfer eu hincwm,” meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru.

“Mae’r cyfnod clo wedi gadael llawer mewn caledi gyda rhai’n wynebu dyfodol llwm.

“Rydym yn ddiolchgar y bu modd i ni gefnogi nifer ohonynt gyda chyllid argyfwng diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, gan gynnwys Rheilffordd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru.

“Mae’r sector treftadaeth mor hanfodol i dwristiaeth, swyddi a llesiant wrth i ni ddod allan o’r argyfwng yma.” 

Diolch i chwaraewyr y loteri

Er mwyn diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd y locomotif cyntaf i Reilffordd Ucheldir Cymru ei roi ar waith ers llacio mesurau’r cyfnod clo yng Nghymru wedi’i addurno â’r neges ‘Diolch yn fawr.’

Mae chwaraewyr y Loteri yn codi mwy na £30m yr wythnos i achosion da ledled gwledydd Prydain.