Mae Siân Gwenllian yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddangos arweiniad go iawn er lles pobol ifanc wrth iddyn nhw baratoi i ddychwelyd i’r ysgol.

Mae’n dweud bod angen i’r llywodraeth gynllunio ymlaen llaw os ydyn nhw am adfer ymddiriedaeth pobol ifanc.

Daeth ei sylwadau cyn i arolwg YouGov ar gyfer Yes Cymru awgrymu bod y mwyafrif helaeth o bobol ifanc (78%) yn credu bod ymateb y llywodraeth i’r coronafeirws wedi bod yn dda.

“Mi fydd y dyddiau a’r wythnosau nesaf yn eithriadol o anodd i bawb wrth iddyn nhw setlo yn y ‘normal newydd’ ond dw i’n hyderus y bydd prifathrawon yn ymdrin â’r problemau cychwynnol anochel mor gyflym â phosib ac y bydd y sylw’n troi at les y disgyblion, gan fynd i’r afael â’u hanghenion addysgol ac adnabod unigolion y bydd angen cefnogaeth ychwanegol arnyn nhw,” meddai.

“Yn y cyfamser, mae angen i Lywodraeth Cymru edrych ymlaen at y misoedd nesaf a chadw barcud ar y bêl os yw o ddifrif am adfer ymddiriedaeth ein pobol ifanc.

“Mae angen sicrwydd ar ddisgyblion, rhieni a staff ein hysgolion a cholegau gan yr Ysgrifennydd Addysg fod cynlluniau ar y gweill ers tro er mwyn ymateb i unrhyw anghyfleustra o ran addysg yn y dyfodol a allai ddigwydd os oes angen cyfnodau clo eto yn ystod misoedd y gaeaf.”

Amlinellu arweiniad

Mae Siân Gwenllian wedi amlinellu enghreifftiau o sut y gall y llywodraeth gynnig arweiniad.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • gwneud penderfyniadau cynnar ynghylch defnyddio graddau asesiadau mewnol yn hytrach nag arholiadau ar gyfer disgyblion blynyddoedd 11 a 13.
  • blaenoriaethu gwella dysgu o bell, gan gynnwys sesiynau byw ar y we, a sicrhau bod gan ddisgyblion ddigon o gyfarpar a chysylltiad i’r we.
  • cydweithio rhwng yr Ysgrifennydd Addysg a’r Ysgrifennydd Iechyd i sicrhau bod digon o adnoddau ar gael i ymateb i anghenion iechyd meddwl disgyblion
  • arweiniad ar gyfnodau clo lleol a chynnig cymorth i ysgolion pe bai hyn yn digwydd

“Mae angen i Lywodraeth Cymru osgoi’r camgymeriadau a wnaeth hyd yn hyn – yr helynt arholiadau, trosglwyddo’r cyfrifoldeb am orchuddion wynebau, cyhoeddi ailagor ysgolion ymhen pedair wythnos heb sicrhau caniatâd undebau ymlaen llaw,” meddai.

“Byddan nhw’n destun craffu gofalus.”