Mae Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg Cymru, yn dweud bod Llywodraeth Cymru’n ystyried a ddylid cyflwyno dirwyon absenoldeb o’r ysgol, tra bod undebau yn Lloegr yn galw am ohirio dirwyon o’r fath.
Bydd oddeutu 40% o ysgolion yn croesawu disgyblion yn ôl heddiw (dydd Llun, Medi 1).
Mae Kirsty Williams eisoes wedi dweud na fydd dirwyon yn cael eu rhoi yng Nghymru am y tro, ond fod adolygiad yn cael ei gynnal.
Mae’r Gymdeithas Prif Athrawon Cenedlaethol (NAHT) wedi dweud y dylai’r dirwyon gael eu gohirio i rieni nad ydyn nhw eisiau anfon eu plant yn ôl i’r ysgol oherwydd gofidion am y coronafeirws.
“Os wyt ti’n rhiant sy’n poeni am ddiogelwch, dyw dirwy ddim yn debygol o wneud iti deimlo’n saffach,” meddai Paul Whiteman, Ysgrifennydd Cyffredinol NAHT.
Mae arolwg wedi dangos 78% o rieni yn erbyn dirwyon absenoldeb.
Yn y cyfamser, mae Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, wedi galw ar i Gavin Williamson, Ysgrifennydd Addysg San Steffan, wynebu’r senedd ac esbonio “sut y mae o am amddiffyn” dyfodol plant.
Mewn datganiad, dywed Gavin Williamson nad yw’n “tanbrisio pa mor anodd mae’r misoedd diwethaf wedi bod, ond dw i yn deall pa mor bwysig ydi hi i ddisgyblion dychwelyd i’r ysgol, nid yn unig ar gyfer eu haddysg ond ar gyfer eu datblygiad a lles”.