Mae busnesau lletygarwch yng Nghymru’n cael eu canmol am barhau i gynnig gostyngiadau ar gyfer bwyta allan er bod y cynllun swyddogol ‘Bwyta Allan i Helpu Allan’ wedi dod i ben.

Mae nifer o fusnesau wedi mynd ati i greu eu cynlluniau eu hunain er na fydd cynllun swyddogol Llywodraeth Prydain yn parhau.

Yn ôl Darren Millar, llefarydd Adferiad Covid a Thwristiaid y Ceidwadwyr Cymreig, mae’r cynllun wedi helpu busnesau i godi ar eu traed unwaith eto ar ôl ymlediad y coronafeirws.

“Mae ‘Bwyta Allan i Helpu Allan’ wedi bod yn llwyddiant enfawr, felly does dim syndod fod busnesau eisiau mabwysiadu cymhelliant tebyg i annog cwsmeriaid i fwyta allan yn barhaus,” meddai.

“Mae’r cynllun wedi helpu bwytai, caffis a thafarnau ledled Cymru i frwydro’n ôl ac mae wedi bod yn eithriadol o boblogaidd.

“Dw i wrth fy modd fod y brand Cymreig eiconig Brains wedi penderfynu cyflwyno’i gynllun ei hun ym mis Medi, a bod busnesau eraill yn eu dilyn.

“Bydd fath weithred – sy’n cynnal ac yn adeiladu ar yr ysgogiad a gafodd ei gyflwyno gan y Canghellor Rishi Sunak – yn talu ar ei chanfed ledled Cymru.”