Mae enw Cymraeg annisgwyl wedi’i roi gan y Swyddfa Dywydd ar un o’r stormydd nesaf fydd yn taro gwledydd Prydain – Heulwen.

Daw’r rhestr newydd i rym heddiw, gan ddechrau gyda’r llythyren A – Aiden – sy’n golygu mai Heulwen fydd yr wythfed storm i daro gwledydd Prydain.

Cafodd y rhestr ei llunio ar y cyd â Met Eireann yn Iwerddon a Sefydliad Meteorolegol Brenhinol yr Iseldiroedd.

Bwriad enwi stormydd, sydd wedi bod yn digwydd ers chwe blynedd, yw codi ymwybyddiaeth o effaith bosib y stormydd cyn iddyn nhw gyrraedd.

Mae’r cyhoedd wedi cyfrannu at y rhestr o enwau sydd wedi’i chyhoeddi ar gyfer 2020-21.

Aiden, Bella, Christoph, Darcy, Evert, Fleur a Gavin fydd y chwe storm cyn i Heulwen daro.

Dydy’r llythrennau Q, U, X, Y na Z ddim ar y rhestr, yn unol â chonfensiwn rhyngwladol.