Byddai rhoi Portiwgal yn ôl ar restr cwarantîn y Deyrnas Unedig yn “achosi mwy o anhrefn a chaledi” i deithwyr, yn ôl pennaeth rhiant gwmni British Airways.
Gallai mesurau cwarantîn gael eu hailgyflwyno ar bobol sy’n dychwelyd o Bortiwgal yn sgil cynnydd mewn achosion o’r coronafeirws.
Roedd 21.1 achos o’r coronafeirws ymhob 100,000 person ym Mhortiwgal yn y saith diwrnod diwethaf hyd at Awst 30, i fyny o 19.4 yn y saith diwrnod hyd at Awst 29.
Graddfa saith diwrnod o dros 20 yw’r trothwy mae Llywodraeth Prydain yn ei ystyried er mwyn cyflwyno mesurau cwarantîn.
Bu cynnydd mawr mewn pobol yn chwilio am hediadau i Bortiwgal ar ôl i’r wlad gael ei thynnu oddi ar restr cwarantîn y llywodraeth lai na phythefnos yn ôl.
Wrth ysgrifennu yn The Times, dywed Willie Walsh, prif weithredwr International Airlines Group y “byddai ychwanegu Portiwgal i’r rhestr cwarantin yn achosi mwy o anhrefn a chaledi i deithwyr”.
“Mae’r Llywodraeth yn defnyddio ystadegau mympwyol i wahardd 160 o wledydd a dinistrio’r economi,” meddai.
“Mae’n rhaid i’r Llywodraeth gyflwyno system brofi er mwyn adfer hyder.”