Mae cyn-ffrind ac ymgynghorydd i Melania Trump wedi dweud mai gweithio i Donald Trump a’i deulu oedd “camgymeriad mwyaf” ei bywyd.

Roedd Stephanie Winston Wolkoff yn ymgynghorydd di-dâl i Melania Trump tan Chwefror 2018, pan gafodd ei chytundeb ei derfynu wrth i gwestiynau am wariant godi.

“Pan oedd yn cyfrif, doedd Melania ddim yno imi,” meddai yn ei llyfr newydd.

“Doedd hi ddim yn ffrind imi, a dweud y gwir byddai’n well gen i pe na bawn i erioed wedi ei chyfarfod.”

Mae llefarydd ar ran Melania Trump wedi beirniadu’r llyfr gan ddweud ei fod yn “llawn anwireddau a pharanoia”.

Gwrthod condemnio llofrudd honedig protestwyr yn Kenosha

Yn y cyfamser, mae Donald Trump wedi gwrthod condemnio’r bachgen sydd wedi ei gyhuddo o saethu a lladd dau berson yn Wisconsin, gan ddweud y byddai “fwy na thebyg wedi cael ei ladd” pe na bai e wedi saethu’r protestwyr.

Wrth siarad mewn cynhadledd yn y Tŷ Gwyn cyn ymweld â Kenosha, dywedodd Donald Trump fod Kyle Rittenhouse wedi dioddef “ymosodiad treisgar” cyn iddo ddechrau saethu at brotestwyr.

Mae erlynwyr yn dweud bod Kyle Rittenhouse wedi llofruddio dau o bobol ac wedi anafu un arall yn ddifrifol.

Yn ei ymosodiad mwyaf uniongyrchol ar yr Arlywydd hyd yn hyn, mae Joe Biden wedi cyhuddo Donald Trump o achosi rhaniadau sydd wedi arwain at drais.

“Nid yw’n gallu stopio’r trais oherwydd mae ef wedi bod yn achosi’r trais ers blynyddoedd,” meddai ymgeisydd arlywyddol y Democratiaid.

Ond mae Donald Trump yn dweud ei fod yn beio pobol radical sydd wedi eu hannog gan Joe Biden.

Dywed Joe Biden fod Donald Trump wedi “gwenwyno” gwerthoedd y wlad.