Mae Pobol y Cwm i fod i ailgychwyn ffilmio ddydd Llun, Awst 10. Cafodd y gyfres, a osodwyd ym mhentref ffuglennol Cwmderi ei gohirio ym mis Mawrth oherwydd y pandemig.
Disgwylir y bydd y rhaglen yn ôl ar y sgrin ar S4C yn yr Hydref.
Wrth groesawu’r cyhoeddiad, dywedodd Pennaeth cynhyrchu cynnwys BBC Cymru, Siân Gwynedd, ei fod yn newyddion ‘gwych’ y bydd Pobol y Cwm yn ôl ar ein sgriniau yn fuan iawn.
“Rwy’n adnabod cefnogwyr ledled y wlad a thu hwnt fydd wrth eu boddau” meddai.
“Mae’n rhaid i ddiogelwch ein cast a’n criw fod yn flaenoriaeth, ac mae hynny wedi bod yn rhan o’r trafodaethau i ailgychwyn y cynhyrchiad.”
Meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, fod y gyfres ‘eiconig a hirhoedlog’ hon yn rhan allweddol o amserlen S4C.
“Mae wedi bod yn denu dilynwyr a chefnogwyr ledled y byd ers degawdau. Dwi’n gwybod bod ein gwylwyr a’n superfans sebon am ddal i fyny gyda thrigolion Cwmderi cyn gynted â phosib.”
Bu cryn gyffro gan rai ar Twitter am ailddyfodiad yr opera sebon…
PRAISE BE!!! Ma unrhyw un sy’n nabod fi’n gwbod fo fi’n hoffi troi pob un sgwrs am pobz, ffili aros i ddechre mynd ar nerfs pawb eto ? https://t.co/zBXn6f50os
— Ani Glass (@Ani_Glass) August 5, 2020