Oherwydd Covid-19, mae enillydd prif wobr Llyfr y Flwyddyn am fynd i gyfeiriad “mwy siriol” gyda’i nofel nesaf.

Ifan Morgan Jones sydd wedi ennill prif wobr Llyfr y Flwyddyn eleni am ei nofel “hynod o dywyll” Babel, a enillodd yn y categorïau Ffuglen a Gwobr Barn y Bobol golwg360 hefyd.

“Doeddwn i erioed wedi hyd yn oed ystyried y byddwn i’n ennill Llyfr y Flwyddyn,” meddai’r darlithydd Newyddiaduraeth, a chyn-olygydd golwg360.