Tawelwch.

Yn y gegin fach yma, bu twrw unwaith, amser maith yn ôl. Plant yn dadlau dros yr olaf o’r Pop Tarts ac yn chwilio ym mag enfawr y Rice Krispies er mwyn cael gweld lle oedd y tegan bach am ddim. Jam ar y bwrdd, llaeth wedi ei golli dros lyfrau, ac yna, yn y prynhawn, llythyrau o’r ysgol wedi eu plygu’n grychau mân ar ôl cael eu stwffio i gorneli bagiau ysgol.