Myfyrwyr rhyngwladol Caerdydd sydd wedi ysbrydoli sengl newydd y band HMS Morris.
Ar ôl cyhoeddi ‘Babanod’ a ‘Poetry’ yn ystod y cyfnod clo, ‘Myfyrwyr Rhyngwladol’ yw’r drydedd sengl yn y gyfres, ac fe fydd yn cael ei chyhoeddi ar Fedi 16.
Ar City Road y brifddinas mae’r band wedi’i leoli, ardal sy’n “gawl gosmopolitaidd o fwytai, shisha bars a barbwyr sydd yn ddiweddar wedi eu gorlethu gan neuaddau posh i fyfyrwyr”, yn ôl cwmni Beast PR.
“Problem enbyd heb os, ond er mai hyn oedd yr ysgogiad gwreiddiol tu ôl i ‘Myfyrwyr Rhyngwladol’, erbyn iddi galedu yn deimlad a sain pendant doedd hi ddim yn rant am neuaddau myfyrwyr swanc bellach, ond yn hytrach yn fyfyriad ar faint o le gwell fyddai’r byd petaen ni i gyd yn fyfyrwyr rhyngwladol.”
Mae’r sengl hefyd yn cynnig sylwebaeth ar amlddiwylliannedd a hiliaeth ar draws y byd, yn wyneb llofruddiaeth George Floyd ym Minneapolis fis Mai.
“Mae hi’n ddyletswydd moesol arnom oll i astudio y rhyngwladol: i wylio’r newyddion fel mai ein stori ni ein hunain yw e, i’w hystyried yn ofalus, i ddysgu ac addasu ein hymddygiad.
“Dylen ni fod yn yn barod i drochi mewn diwylliannau eraill, yn union fel mae myfyrwyr rhyngwladol City Road yn gwneud.”
Fe fydd ‘Myfyrwyr Rhyngwladol’ ar gael yn ddigidol i’w ffrydu a’i lawrlwytho o’r manau arferol.