Yma, mae Rhuanedd Richards, Golygydd BBC Radio Cymru, yn ymateb i golofn ddiweddar gan Huw Onllwyn…
Rhai rhaGlenni da ond mond Rhestr yw hwn. A virtue signalling ei bod yn cynnwys lleiafrifoedd ethnig. Da iawn chi ond ond chwaRae records mae nhw yn neud hefyd fel mae bron pob rhaglen sydd ar Radio Cymru. Beth yw y ffigyrau, gwrando? Pwy sydd yn gwrando, beth yw ei hoedran nhw, blemae nhw yn byw?
Beth am greu strandiau newydd, beth am gyflwyno dogfenni, comedi, gwyddoniaeth, trafod henaint, mdddygaeth, anabledd, natur. dychan? Beth am parchu y gynulleidfa , ydy 3 awr o radio clos fferm bob pnawn a bobl yn gesio swn implement amaethyddol yn ymestyn ffiniau creadigol? Neu sgwrs am couscous, fel petae yn atodiad diweddar arloesol i bantri.
Beth am adlewyrchu bywyd Cymry heddiw, nid cyfweliadau diddiwedd gyda ryw selebs Cymraeg sydd ddim yn selebs, megis stifyn Parry. Beth am gyrraedd allan i cymunedau go iawn. Beth am rhaglen hanner awr i fenywod , neu ar enwau llefydd gyda Myrddin ap, neu yr economi?. Pam chwarae recordiau ar rhaglen materion cyfoes amser cinio? Pam bod slot Dewi Llwyd ganol wythnos bron gwmws ryn peth a’i rhaglen dydd Sul? Pam bod dim werth o newyddion , materion cyfoes Cymru a dadansoddi yn cael ei darlledu, mae gennym sgandalau lu yng Nghymru, diffyg pwerau, llygredd, incompetence gwleidyddol, a chamweinyddu arian cyhoeddus a bron dim un stori yn cael ei ymchwilio ganddynt. Heddiw glywes i ar newyddion radio Cymru bod aelod Kool and the Gang wedi marw. Pwy ddìawl sydd yn becso, nid Dafydd Iwan oedd e. Mond dilyn agenda newyddion lloegr oeddent am mai dyna oedd un o benawdau newyddion BBC heddi. Beth am newid hinsawdd, cynhesu byd eang a niwed i’r amgylchedd? Y bygythiad i fywyd Cymraeg cefngwlad?
Bydd dim cynulleidfa ar ol cyn bo hir i wrando
Sylw gwych, Gaynor! Cytuno gyda phob gair.
Na, dydyn nhw ddim yn gwrando, ac yn eu bybls bach Caerdydd-aidd, maen nhw jyst yn gweld y gorllewin a’r gogledd fel sw Cymraeg lle mae pawb yn ffermwr. Does dim llyfeliaeth gyda nhw.
Yr unig ateb yw ehangu arlwy Radio Cymru 2.
Dylai Radio Cymru fod yn gyfuniad o ran arddull i Radios 1, 2, a 6 a Radio Cymru 2 yn gyfuniad o Radios 3, 4, a 5. Byddai hynny yn plesio pawb.
Hefyd i ychwanegu at eich rhestr, does dim arlwy o gwbl ar gyfer dysgwyr, dim defnydd o gwbl o Gymry sy’n byw tramor i greu rhaglenni. Does dim dychymyg nac uchelgais. Roedd Radio Cymru yn y flwyddyn 2000 yn well na beth sydd gyda ni nawr.