Mae Jack Smylie Wild yn fwyaf adnabyddus am ei sgiliau fel pobydd a pherchennog becws Bara Menyn yn Aberteifi. Ond mae hefyd yn fardd ac yn awdur sydd newydd gyhoeddi cyfrol am ei gariad tuag at yr Afon Teifi.

Cafodd ei eni a’i fagu yng Ngheredigion cyn i’r teulu symud i Dartmoor. Daeth yn ôl i Gymru i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd cyn symud i Landysul yn 2012. Yma mae’n sôn am ei waith yn bobydd ac awdur…