Ma’ raid i fi gyfadde, tua’r amser hyn wythnos d’wetha’, bo’ fi wedi ca’l chuckle bach i fi fy hun pan dda’th colofn Huw Onllwyn am Radio Cymru ar draws fy nesg (wel, bwrdd y gegin). Dw i’n credu bo’ fi wedi mynd i neud paned ac ebychu rhyw ‘ho ho’ a rhyw ‘jiw jiw’ fach. Wedyn da’th rhwbeth arall i’w wneud a nes i’m meddwl amdano fe ’to… am ddwrnod ne’ ddau.