Ei dwylo y sylwodd arnyn nhw gyntaf – dwylo hirion, cain; gewinnedd taclus, byr. Hoel modrwy oedd wedi ei dynnu ers tro, ond a wisgwyd am amser hir. Wedi iddi eistedd ar y bws yn y boreau, byddai’r ddynes yn gosod ei dwylo ar ei glin. Roedd rhywbeth am ei llonyddwch oedd yn gysur i Owain ar ei daith foreol i’r gwaith. Roedd hi’n un o’r rhai prin – ddim yn edrych ar ei ffôn, nac yn gwrando ar dwrw drwy glustffonau oedd yn cadw’r byd yn fud. Roedd hi’n berffaith hapus gyda’r dim byd oedd yn llenwi