Mewn llai na blwyddyn o berfformio yn gyhoeddus, mae tad i dri sydd yn ei bedwar degau wedi dod yn dipyn o ffefryn yn ystod cyfnod y corona.
Wedi i filoedd fwynhau gwylio Dylan Morris yn canu ar facebook, mae’r dyn o Bwllheli sy’n gweithio gyda chyfrifiaduron wedi canu ar raglenni Heno a Noson Lawen, ac wedi bod draw i stiwdio Sain i recordio tair cân ar gyfer ei gryno ddisg cyntaf.
Daeth y canwr i sylw’r genedl ar y grŵp ‘Côr-ona’, a gafodd ei sefydlu yn wreiddiol ar gychwyn y cloi mawr, er mwyn caniatáu i’r côr-garwyr gyd-ganu eu hoff ganeuon ac emynau ar y We.
Erbyn hyn mae gan y grŵp bron i 50,000 o aelodau, ac ers mis Mawrth maen nhw wedi bod yn tynnu pobol ynghyd er mwyn osgoi teimlo yn unig yn y locdown.
Mae croeso i unrhyw un bostio perfformiad ar safle ‘Côr-ona’ ar facebook, ac mae degau o filoedd wedi gwylio Dylan Morris yn canu.
A thrwy ‘Côr-ona’, fe ddaeth y tad 41 oed i adnabod un o gyfansoddwyr enwoca’ Cymru.
Arfon Wyn, ffryntman y Moniars, sydd wedi ennill Cân i Gymru bedair gwaith.
Ar ôl gweld Dylan Morris ar facebook yn canu un o’i ganeuon – ‘Cae o Ŷd’ – fe gynigiodd Arfon Wyn eu bod yn cyd-ganu ei gân newydd, ‘Haul ar Fryn’.
Oherwydd y rheolau Covid, fe wnaethon nhw recordio’r gân ar wahân yn eu cartrefi, cyn ei gosod ar facebook… o hynny daeth y cynnig i ffilmio fideo yn perfformio ‘Haul ar Fryn’ ar gyfer rhaglen gylchgrawn nosweithiol S4C.
“Y tro cyntaf i ni gyfarfod [yn y cnawd] oedd y noson wnaethon ni ffilmio ar gyfer Heno!” eglura Dylan Morris.
Fe gafodd y perfformiad o’r ddau yn canu ‘Haul ar Fryn’ ei wylio 42,000 o weithiau ar dudalen Heno ar facebook… a gymaint oedd ei phoblogrwydd, fe gafodd y fideo ei dangos AM YR AIL DRO ar y rhaglen ei hun ar nos Lun Gŵyl y Banc mis Awst.
Ac ers ffilmio’r fideo honno, mae Dylan Morris wedi perfformio ‘Cae o Ŷd’ o flaen camerâu Noson Lawen yn Galeri Caernarfon… ac mae CD ar ei ffordd.
Dim ond yn ddiweddar iawn mae’r canwr, sy’n ennill ei fara menyn yn Swyddog Technoleg Gwybodaeth a Marchnata gyda chwmni o gyfrifwyr siartredig ym Mhwllheli, wedi troi at ganu yn gyhoeddus.
“Dw i ddim wedi gwneud dim byd o ran steddfod a ballu,” eglura.
“Yr unig beth dw i wedi’i wneud ydy canu karaoke yn lleol, ryw ychydig bach… gan dueddu i wneud caneuon Meatloaf, Elvis…
“Ond rhyw flwyddyn yn ôl wnaeth y canu ddechrau go-iawn.
“Wnes i ddechrau mynd i noson open mike mewn lle bwyta bach yn nhref Pwllheli…
“A jesd cyn y cyfnod clo, ges i ganu mewn noson ‘Jazz and chips’ mewn siop jips ym Mhwllheli, yn canu efo un boi ar y gitâr a’r llall ar y bass.
“A hwnnw oedd y gig cyntaf i mi wneud… roedd yna ryw 30 o bobol yna.”
Oedd o’n nerfus?
“Oeddwn! Er bo fi wedi arfer canu karaoke efo dipyn bach o ddiod.
“Ond i wneud rhywbeth fel yna o flaen pobol, a phawb yn sbïo arna chdi. Ydy, mae o’n gam mawr ac roeddwn i reit nerfus – ond wnes i wir fwynhau o, profiad da iawn…
“Ar wahân i hynny, dw i ddim wedi canu o flaen cynulleidfa, ddim wedi canu efo band yn iawn tan wnes i Noson Lawen wythnos diwetha’!”
Yn dilyn y gig siop jips, roedd Dylan Morris yn awyddus i wneud mwy o ganu yn gyhoeddus – er bod y locdown wedi dod i rym.
“Roeddwn i wedi cael y byg o fod eisiau canu a perfformio.
“Ac wedyn ddaeth y dudalen ‘Côr-ona’, ac fues i’n rhyw bendroni be’ i’w wneud, achos tydi ffilmio fi’n hun yn canu ddim yn rhywbeth dw i wedi’i wneud o’r blaen.”
Y caneuon cyntaf iddo bostio ar y safle facebook oedd ‘You raise me up’ a ‘Chwarelwr’, ac erbyn hyn mae ganddo ymhell dros hanner cant o ganeuon ar y dudalen.
Mae ‘hoffi’ wedi cael ei glicio dros 40,000 o weithiau ar ei berfformiadau ar Facebook.
Ac mae’r canwr yn falch o fod wedi mentro i bostio’i berfformiadau ar y We.
“Yn y dechrau, roedd o’n rhywbeth i fi wneud i godi calon adref, fan hyn.
“Ond wedyn, y fwyaf yn byd mae o wedi mynd yn ei flaen, rydw i wedi bod yn cael negeseuon gan bobol.
“Rwyt ti’n sylweddoli sut mae miwsig yn effeithio ar bobol, a faint o help ydy o wedi bod i bobol i gael eu hunain drwy’r cyfnod yma, yn gwrando – dim jesd arna fi – ond pobol eraill sydd wedi bod ar ‘Côr-ona’ hefyd.
“Mae wedi bod yn adeg mor anodd i bobol, yn colli aelodau o’r teulu a ballu. Ac mae [cael pobol yn] gyrru neges yn diolch am ganeuon rydan ni wedi bostio, mae o’n deimlad rhyfedd ac mae rhywun yn browd, ac eto yn drist.”