Wedi dwy fuddugoliaeth yn olynol, mae tîm Ryan Giggs ar frig eu grŵp yng Nghynghrair y Cenhedloedd…

Mae’r sylwebydd Nic Parry yn disgrifio gemau pêl-droed Cymru yn erbyn y Ffindir a Bwlgaria fel “dwy gêm affwysol o sâl”, gan ychwanegu mai’r gêm yn erbyn Bwlgaria yw “un o’r gemau gwaetha’ dw i wedi sylwebu arno fo’n rhyngwladol ers degawdau”.