Dwy gêm a dwy fuddugoliaeth i Gymru, a hynny yn y math o gemau dydy Cymru ddim wedi ennill yn hanesyddol.

Ar ôl degawdau o straffaglu i amddiffyn ein gôl mewn gemau oddi cartref, ac ymlafnio i guro timau trefnus adref, rydyn ni wedi darganfod ffordd o ennill gemau tynn.