Wrth wylio Match of the Day 2 nos Sul, mi weles i Chelsea am y tro cyntaf eleni, a ges i syrpreis i weld eu cit newydd, gyda trim melyn ar ochrau’r glas arferol.

Roedden nhw’n edrych mwy fel Dinas Caerdydd yn y lliwiau yna. Dydy Caerdydd heb gynnwys melyn ar eu cit ers 2010 ond mae’r brand yna – y glas-gwyn-melyn – dal yn gryf gyda’r cefnogwyr.