Y ferch 36 oed o Fôn yw boss Pobol y Cwm. Fe astudiodd radd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd cyn ymuno â’r BBC lle mae hi’n sgriptio a chynhyrchu dramâu teledu ers 15 mlynedd…

 

Beth yn union ydach chi’n ei wneud ar Pobol y Cwm?

Fi ydi Cynhyrchydd y Gyfres – mae gen i’r trosolwg o’r holl gyfanwaith o’r syniad am stori neu gymeriad – hyd at y darlledu a phopeth yn y canol.

Fy nghyfrifoldeb i yw sicrhau ein bod yn cynhyrchu’r rhaglen ora phosib o fewn y cyfyngder amser a gyda’r adnoddau sydd gennym. Mae’n fraint bod yn gapten llong ar gyfres sy’n rhan o’n hanes ni fel Cymry.

 

Sut mae’r gwaith o greu’r opera sebon wedi newid yn y cyfnod clo?

Mae wedi newid yn llwyr ond hefyd ddim o gwbl. Ar ddiwedd y dydd creu straeon am gecru, caru a chyfrinachau yn y Cwm ydan ni. Rydym wedi parhau i weithio ar hynna yn y cyfnod clo, ond nid criw o bobol mewn un ystafell ond pawb yn gweithio o adra’.

 

Faint o her oedd ailgychwyn ffilmio yn ddiogel ym mis Awst?

Mae yna domen o waith wedi mynd mewn i gynllunio ffordd o weithio sy’n saff o ran Covid-19, ryda ni wedi bod yn ffilmio ers tair wythnos bellach ac mae’n deimlad gwych cynhyrchu eto.

 

Pwy sy’ wedi dylanwadu ar eich gyrfa?

Nelson Mandela – “everything seems impossible until it’s done”.

 

 Beth yw eich atgof cynta’?

Chwarae yn y tywod yn ysgol feithrin Moelfre.

 

Beth yw eich ofn mwya’?

Anghyfiawnder.

 

Lle oeddech chi pan ddaeth y cyfnod clo nôl ym mis Mawrth?

Ar Ynys Coron (!) yn y Phillipines… es i Scuba Dive-io a dod allan o’r dŵr i’r newyddion bod y wlad mewn lockdown.  Roedd hi hefyd yn digwydd bod yn Ddydd Gwener y 13eg!

Roedd yr holl feysydd awyr yn cau a phob flight yn cael eu canslo. Ond i dorri stori hir yn fyr, gyda fy mam ar y ffôn yn trio newid fy nhocyn gwreiddiol a gyda help pobol leol, cwch gwyllt am bedwar y bore a chuddio yng nghefn fan, chartered flight, hitch hike a lift gan ddyn “taxi” (wnaeth U turn ar y draffordd a gyrru i wynebu’r traffig), wnes i gyrraedd maes awyr Manila a nôl i Gaerdydd yn holl iach.  Dw i dal yn flin bo fi wedi gorfod gorffen fy antur yn gynnar… ond, faswn i dal yna fel arall!

 

Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?

 

Codi pwysau dw i yn y gampfa bedair gwaith yr wythnos.  Rhedeg – dw i’n hyfforddi ar gyfer fy marathon gyntaf yn Berlin 2021 ac yn ystod y cyfnod clo roeddwn i’n rhedeg 10k bob dydd am 10 diwrnod yn olynol.  Mwynhau gwthio fy hun i’r eithaf.  Dw i’n seiclo i’r gwaith bob dydd a fydda i yn gwneud yoga i ymlacio.

 

Beth sy’n eich gwylltio?

Dw i ddim yn gwylltio’n aml ond pan dw i yn, gwylltio’n gacwn.  Fel arfer efo pobol sydd yn gwrthod cymryd cyfrifoldeb.

 

Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?

Nain, mae gen i hiraeth mawr amdani – a buaswn yn bwyta ei chrymbl mwyar duon.

 

Gan bwy gawsoch chi sws gorau eich bywyd?

Dal i aros….

 

Pa ddigwyddiad wnaeth achosi’r mwya’ o embaras i chi?

Ffonio’r heddlu i riportio bo rhywun wedi dwyn fy nghar….. ond roeddwn i wedi anghofio lle’r oeddwn i wedi barcio fo!

 

Beth yw’r parti gorau i chi fod ynddo?

Parti plu fy hun pan wnes i benderfynu canslo fy mhriodas.

 

Beth sy’n eich cadw’n effro gyda’r nos?

Dw i’n cysgu fel twrch!

 

Beth yw eich hoff ddiod feddwol?

Champagne.

 

Beth yw’r llyfrau difyrraf i chi eu darllen?

She Said – hanes sut ddaru’r newyddiadurwyr adeiladu achos i ddinoethi Harvey Weinstein a arweiniodd at ei erlyniad, er gwaethaf ymdrechion Weinstein i’w tawelu.

 

Beth yw eich hoff air?

Ffrwchnedd.

 

Pa raglenni teledu fyddwch chi’n mwynhau?

Ffilmiau Marvel, dramâu gyda chymeriadau difyr a thyndra perthnasau, e.e. Succession, This Is Us, The Fall, Glee  a Pobol y Cwm wrth gwrs!

 

Sut le yw eich cartref?

Tŷ teras tair llofft yng Nghaerdydd.  Croesawgar a digon o oleuni naturiol.  Yn ystod y cyfnod clo aeth stafell sbâr yn swyddfa a lolfa yn gampfa!

Gen i dipyn o gelf ar y waliau ac rwyf yn hoff o liwiau – mae fy lolfa yn nefi blw a’r stafell ganol yn wyrdd.   Mae dipyn o waith paentio i’w wneud ar yr ystafelloedd gwely, ond disgwyl i’r awen fy nharo.

 

Rhannwch gyfrinach efo ni…

Gofynnwch unrhyw beth i fi ac fe wna i roi ateb gonest i chi… dw i ddim yn dda iawn am ddeud celwydd.

 

Wedi cyfnod oddi ar y sgrîn oherwydd y cloi mawr, mae Pobol y Cwm yn ôl ar S4C yr wythnos hon am y tro cyntaf ers mis Mehefin