Mae Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, wedi dweud ei bod hi’n “hynod falch” bod S4C wedi llwyddo i gael 17 o enwebiadau BAFTA Cymru eleni.

“Mae’r rhestr gyfan yn dangos safon ac ehangder gwasanaeth S4C ar draws pob genre, ac yn dathlu rhaglenni plant, drama, ffeithiol, adloniant, materion cyfoes,  a mentergarwch digidol hefyd”, meddai.

“Rydw i’n falch iawn o bob un, a dymuniadau gorau i bawb yn y seremoni wobrwyo ar lein.”

Yn sgil y coronafeirws bydd y seremoni BAFTA Cymru 2020 yn cael ei chynnal ar-lein ym mis Hydref.

Ymhlith yr enwebiadau mae enwebiad i ‘Merched Parchus’ yn y categori Torri Trwodd ac i Mari Beard a Hanna Jarman yn y categori Awdur Gorau.

Mae Emma Walford, Trystan Ellis Morris a Carys Eleri wedi eu henwebu yn y categori Cyflwynydd Gorau, a llwyddodd S4C i gael dau enwebiad yn y categori Rhaglen Blant.

Mae enwebiadau hefyd i raglenni ‘Ysgol Ni: Maesincla’, ‘Priodas Pum Mil’, ‘Y Byd ar Bedwar’, ‘Tudur Owen: O Fôn i’r Lleuad’, ‘Eirlys, Dementia a Tim’, ‘Bang’, ‘Cymru Wyllt’ ac ‘Un Bore Mercher’.

Rhestr lawn o enwebiadau BAFTA Cymru.