Mae Aelod o’r Senedd tros Arfon sydd hefyd yn Weinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Ddiwylliant, yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru fod wedi gweithredu ynghynt er mwyn “osgoi’r cyfnod hwn o ymgynghori ynglŷn â diswyddo” yn Galeri Caernarfon.
Daw hyn ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod y ganolfan gelfyddydol wedi dechrau proses ymgynghori gyda’u staff, gyda’r posibilrwydd o gwtogi oriau a diswyddiadau oherwydd diffyg cyllid.
Mae Galeri, a agorodd yn 2005, yn gartref i theatr, dwy sinema, 24 o unedau swyddfa sy’n cael eu rhentu gan gwmnïau lleol, siop, oriel gelf, dwy stiwdio, caffi, a bar.
Bydd y ganolfan yn paratoi cais i Gyngor y Celfyddydau am gyfraniad o’r gronfa gwerth £53 miliwn sydd ar gael i gynorthwyo sefydliadau celfyddydol yng Nghymru.
Ond ni fydd yn cael gwybod faint o arian sydd ar gael tan ganol mis Hydref.
“Rwyf wedi rhybuddio ers tro byd y bydd llusgo traed gyda’r gronfa £53 miliwn y soniwyd amdano rai misoedd yn ôl yn arwain at ansicrwydd i’r sector hwn,” meddai Siân Gwenllian, AS Arfon.
“Yn anffodus mae Llywodraeth Cymru yn araf iawn yn sefydlu’r gronfa. Rydym wedi cael ar ddeall y bydd y gronfa ar agor ar gyfer ceisiadau rhwng Medi 14 a 30.
“Ond gallai hynny olygu na fydd ceisiadau gan sefydliadau fel Galeri yn cael eu cadarnhau naill ffordd neu’r llall tan ganol Hydref.”
Galeri a lleoliadau tebyg yn “haeddu cael eu gwarchod”
Mae Galeri a lleoliadau tebyg yn “haeddu cael eu gwarchod” meddai’r Aelod Seneddol Hywel Williams.
“Mae Galeri yn hwb creadigol, sy’n gweithio’n agos gyda’r gymuned leol. Fel arfer mae’n cael ei holl incwm o waith masnachol, yn hytrach na grantiau llywodraeth.
“Mae Cynlluniau Cadw Swyddi a Chynnal Incwm Hunangyflogedig y Llywodraeth wedi methu’r rhai sy’n gweithio yn y celfyddydau, yn enwedig yr hunangyflogedig sy’n dioddef colledion enfawr.
“Mae Galeri a lleoliadau tebyg yn haeddu cael eu gwarchod.”
Cynghorydd lleol yn “mawr obeithio” y bydd y Cyngor Celfyddydau’n darparu cymorth ariannol i Galeri
Mae’r Cynghorydd dros ward Seiont yng Nghaernarfon, Cai Larsen, wedi dweud wrth golwg360 ei fod yn awyddus i weld y Cyngor Celfyddydau’n cefnogi Galeri.
“Mater o gryn ofid yw bod yna broses ymgynghori wedi dechrau yn y Galeri, sy’n cynnig gwasanaeth gwerthfawr iawn i Gaernarfon a’r cyffiniau ac yn denu pobol o bell ag agos,” meddai wrth golwg360.
“Dw i’n mawr obeithio y bydd y Cyngor Celfyddydau yn gwneud pob dim posib i leihau’r diswyddiadau a’r effaith ar y gwasanaeth maen nhw’n ei gynnig.”