Mae 380,000 o gartrefi gafodd ganiatâd cynllunio rhwng 2011 a 2019 yn dal i aros i gael eu hadeiladu, yn ôl ymchwil gan elusen dai Shelter.

Gan ddefnyddio data Llywodraeth Prydain a’r Ffederasiwn Adeiladwyr Tai, dywedodd Shelter fod hyn gyfystyr â 40% o’r tai gafodd ganiatâd cynllunio.

Mae’r nifer o dai gyda chaniatâd cynllunio sydd heb eu hadeiladu wedi cynyddu 100,000 yn y flwyddyn ddiwethaf.

Rhybuddiodd yr elusen nad yw diwygiadau newydd Llywodraeth Prydain ar y mater yn mynd yn ddigon pell er mwyn ymateb i’r prinder tai sydd yng ngwledydd Prydain.

Dywedodd Prif Weithredwr Shelter, Polly Neate: “Mae’n rhaid cael datrysiad i’r prinder ofnadwy o dai fforddiadwy a boddhaol sydd yng ngwledydd Prydain.

“Mae diwygiadau cynllunio Llywodraeth Prydain yn camddehongli’r broblem.

“Chwedl yw’r syniad fod y drefn gynllunio yn atal tai rhag cael eu hadeiladu – ledled y wlad mae miloedd o ‘dai rhithiol’ gyda chaniatâd cynllunio yn aros i gael eu hadeiladu.

“Mae’n rhaid i Lywodraeth Prydain weithredu, ac yn sgil y dirwasgiad mae’n bwysicach nag erioed eu bod yn adeiladu’r tai lleol sydd eu hangen ar ein cymunedau nawr.

“Dylent wario’r arian sydd wedi ei neilltuo ar gyfer adeiladu tai, a dechrau adeiladu tai cymdeithasol nawr.

“Yr unig ffordd o adeiladu’r tai yw drwy gael arian, nid drwy gynllunio.”

Ychwanegodd yr elusen y dylai’r Canghellor Rishi Sunak ystyried cynyddu gwariant ar dai cymdeithasol, gan bennu eu rhent i gyd-fynd ag incwm lleol.